Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

: ; i {"V ■',-; . .,' Hî. ŸrÌ Ymofynypd, Cylchgrawn Misol y Gymdeithas Undodaidd Gymreig. " Profwch bob ỳeth : deliwch yr hyn sydd dda."—Paul. Cyfres Newydd.] MEHEFIN, 1902. [Cyf. II. Ehif 6. CAPEL PANTDEFAID. IV.—Y Pbydlesoedd ; Adeiladu'r Capel Presenol, &c. Gàn y Parch. T. Thomas, Y.H., Green Park. <Ä1|SAF0DD y fynwent, yn ol fel yr oedd wedi cael ei chynllunio a'i J$g} mesur ýn flaenorol, yn nghyd a'r capel eu hargau yn y flwydd- yn 1840, gyda'r dealltwriaeth, ar y cyntaf, y byddai y lês i gael ei rhoi yn uniongyrchol ; ond oherwydd rhyw reswm neu gilydd, neu heb un rheswm o gwbl, yn fwyaf tebyg, bu gohiriad am gryn yspaid. Nid oedd David Thomas yn meddwl y buasai farw mor ddirybudd, na'r gynulleidfa chwaith yn ofni fod un perygl bellach, wedi cael yr addewid, ac felly yr oedd y ddau barti yn gorphwys yn weddol dawel. Yn mhen oddeutu saith mlynedd ar ol marwolaeth David Thomas, a dwy flynedd wedi dyfod o'i fab a'i etifedd i awdurdod, y cafodd yr addewid am y lês ddywededig ei chyflawni ; ond pan ei cyflawnwyd, dangosodd yr etifedd, Thomas Thomas, fod yn dda ganddo gael cyfleusdra i fod o ryw wasanaeth caredig i'r cyfeillion yn Pantdefaid. Wrth wneuthur hyny cyflawnodd addewid ei dad ym- adawedig yn ogystal a dymuniadau ei fam. Dyddiad y lês ydyw Hydref 30, 1847. Yn mhellach cymerodd ef a'i deulu y cyfrifoldeb am bob treuliau cyfreithiol cysylltiedig a'r lês. Wrth lawnodi'r daleb, yr hon sydd yn fy meddiant, yn Uawysgrif y cyfreithiwr ei hun, sef y diweddar Lewis Morris, Caerfyrddin, ceir ynddi y geiriau canlynol:—" In consideration that the above Deeds are to be paid for by Mr. Thomas Thomas and his family, and that my old friend, Mr. David Thomas, of Llanfair, is buried in the premises annexed, I agree to taîce the costs out of pochet."—Lewis Morris. Rhwng y fynwent a'r capel a'r 'stabal, mae yr oll mewn mesuriad yn rhyw dri chwarter erw o dir, neu yn ymylu ar hyny. Yr Ym- ddiriedolwyr cyntaf a ddewiswyd yn y lôs newydd oeddent y person-