Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŸR - Y/nOFYNYDD. Cylchgrawn Misol y Gymdeithas Undodaidd Gymreig. " Profwch bob ỳeth: deliwch yr hyn sydd dda."—Paul. Cyfres Newydd.] MAI, 1902. [Cyf. II. Ehif 5. HANES YR ACHOS UNDODAIDD YN NGHAPELYGROES. Amrchiad a draddodwyd yn y Cyfarfod Chwarterol yn Nghapelygroes, Gan y Parch. Thomas Thomas, Y.H. Anwyl Gyfeillion a Chydgristionogion, Nid oes genyf na phregeth nac araeth, ond ychydig frawddegau wedi eu gosod wrth eu gilydd yn ddigon anestlus yr wyf yn ofni; ond chwi wnewch gyd-ddwyn a tni, gan ystyried nad yw henaint yn dyfod ei hunan. Yr wyf yn gobeithio na fydd i níi eich blino a meithder. Mae yn dda genyf, ar gais gweinidog j lle, allu bod yn bresenol; nid fy mod yn meddwl y gallaf fod o nemawr wasanaeth yn y cyfar- fod, ond yn hytrach oherwydd fy mod yn cael cyfleusdra i weled gwýnebau rhai cyfeillion a adnabyddwn gynt—ychydig ydynt heddyw, ac mae'r nifer yn myned yn llai-llai yn barhaus. Y bobl ieuainc sydd yn harddwch ac yn obaith ein cynulleidfaoedd ydynt, gan mwyaf o honynt, yn ddieithriaid i mi ar* hyn o bryd, gan nad oeddent ond plant pan oeddwn i yn y weinidogaeth ac yn cym- eryd rhan yn y gwahanol gyfarfodydd. Carwn yn fawr adnewyddu'r hen gyfeillach, pe gallwn, ond mae hyny yn anmhosibl. Nid oes i mi mwyach ond " ailymborthi am ryw enyd, ar y gwynfyd gès o'r blaen." Yr oedd y Cyfarfodydd Blynyddol a Chwarterol, os nad wyf yn camsynied, yn cael eu galw weithiau yn Gyfarfodydd Gweinidogion, am y rheswm fod gweinidogion ein gwahanol gapeli