Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR * Y/AOFYNYDD. Cylchgrawn Misol y Gymdeithas Undodaidd Gymreig. " Profwch bob ỳeth : deliwch yr hyn sydd dda."—Paul. Cyfres Newydd.] EBRILL, 1902. [Cyf. II. Ehif á. PLEIDWYR CYNYDD MEWN CREFYDD. ROWLAND WlLLIAMS, D.D., Gan y Parch. E. Gwilym Evans, B.A., (Oxon.), Chesterfield. [PARHAD.] Llanbedr yn 1850. ^IRAWDD yw ìuesur pwysigrwydd tref Llanbedr yn y flwyddyn Jjff 1850—blwyddyn dyfodiad Rowland Williams i'r Coleg—oddi- wrth y ffaith hynod a adroddir gan ei wraig, na feddai tref Pont- Stephan, yr adeg hyny, gymaint ag un siop gigydd. Ond os prin y cig, yroedd cyflenwad y cwrw yn ddihyspydd, canys nid oedd lai na deunaw o dafarndai yn y pentref. Nid yr un yw Llanbedr heddyw ag ydoedd haner can' mlynedd yn ol. Heol-y-Bont, Heol-y-Coleg, Heol-yr-Orsaf, nid oedd un o honynt i'w cael yn 1850; mae'r pentref bellach wedi tyfu yn dref brydferth. Eithr nid i adeiladu tai nac i agor siop gig, yr ymsefydlodd Rowland Williams yn Llanbedr, ond i gyfnewid cymeriad meddyliol a moesol Coleg Dewi Sant, er ei wneuthur yn feithrinfa deilwng i offeiriaid Eglwỳs Sefydledig Cymru. " Mae gwaith gofìdus yn eich haros," meddai rhagflaenor Rowland Williams wrtho. Diffyg arian a diffyg adgyflenwad o fyfyrwyr di- wylliedig achosai i'r Coleg fod mewn trafferth parhaus. Ewyllysiai Williams godi safon yr arholiadau,* ond buan canfyddodd beth fyddai'r canlyniad, sef, gwrthod mynediad i'r Coleg i fwyafrif mawr o'r ym- geiswyr, gan mai dynion mewn oedran, amaethwyr aflwyddìanus, gof- iaid Efengylaidd, a phregethwyr gwrthodedig Ymneillduaeth oedd y *" Ni fedrant," meddai R. W. am ei fyfyrwyr, " ysgrifenu Cymraeg na siarad Saesonaeg."