Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr • Yaofynydd. Cylchgrawn Misol y Gymdeithas ündodaidd Gymreig. " Profwch bob peth : deliwch yr hyn sydd dda."—Paul. Cyfres Newydd.] MAWRTH, 1902. [Cyf. II. Rhif 3. QWEINIDOQION UNDODAIDD FEL YSGOLFEISTRI AC ATHRAWON. IV.—Y Parch. Titüs Evans, Caerfyrddin, Gan y Parch. T. Pennant Phillips, Llandyssül. " WAITH anhawdd yn ddiameu yw gwneud cyfiawnder a hanes bywyd dynion sydd wedi bod yn wasanaethgar ac adnabyddus iawn i'r werin. Mae rhai mor fawr ac anhawdd i'w deall yn glir (Alpau yn mysg y mynyddoedd), fel y petruswn geisio eu desgrifio. Mae rhai personau y gellir eu cwmpasu yn hawddach, a dwyn eu rhagorion yn ddidrafferth gerbron y cyhoedd. Un o'r cyfryw oedd y Parch. Tifcus Evans, ac efallai nad anyddorol fyddai gosod gerbron darllenwyr Yr Ymofynydd, rai o brif amlinellau ei gymeriad, fel yr ymddangosent i ni. Ceisiai o Ddifrif Gyrhaedd at Nod Deilwng Mewn Bywyd. Oanwyd ef o rieni onest, diwyd, a pharchus, yn Pencarniced, Dyffryn Cerdin, Plwyf Llandyssul, yn y flwyddyn 1809. Dyffryn enwog a *Ganwyd Mr. Phillips yn y flwyddyn 1842, yn Cwm Penlan, yn mhlwyf Penrith, Sir Benfro. Symudodd, pan yn 12 oed, at fodryb iddoyn Cilwaun- ydd Fawr, ger Castellnewydd Emlyn. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frytan- aidd Capel Iwan. Mae yn un o'r ffeithiau rhyfedd yn nglŷn ag ef fel pre- gethwriddo gael ei alw at y gwaith pan yn ddim ond I4eg oed. Adnabydd- id ef yn mheíl ac yn agos fel " pregethwr bach Capel Iwan," ac mae ei bob- logrwydd mawr ar faes llawer eangach yn dal hyd y dydd hwn. Yn 1858 aeth i Gaerfyrddin i Ysgol y Parch. Titus Evans, a derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu yn haf 1859 ; ymadawodd yn haf 1862, yr un flwyddyn a'i berth- ynas, Dr. Herber Evans, i fod yn olynydd i'r Hybarch Samuel Griflìths, fel