Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR * Y/AOFYNYDD. Cylchgrawn Misol y Gymdeithas Undodaidd Gymreig. " Profwch bob ỳeth : deliwch yr hyn sydd dda."—Paul. Cyfres Newydd.] CHWEFROR, 1902. [Cyf. II. Rhif 2. PLEIDWYR CYNYDD MEWN CREFYDD. I.—ROWLAND WlLLIAMS, D.D., Gan y Parch. E. Gwilym Evans, B.A., (Oxon.), Chesterfield. jDNABYDDIR Llanbedr-Pont-Stephan gan y byd Seisnig, yn ^t benaf, fel y Ue y cynhelir yn flynyddol ynddo ffair fawr geffyl- au, tra i ychydig eraill yn Lloegr mae yn adnabyddus fel cartref Coleg Dewi Sant. Eithr yn y byd duwinyddol gorphwysa hawl tref Llanbedr i adnabyddiaeth yn unig ar y ffaith fod Rowland Williams wedi byw a gweithio dros gyfnod o flynyddau o fewn ei therfynau. Rhyfedd ydyw fod gwŷr Llanbedr yn anwybyddus o'u hunig hawl i sylw y byd ; nid oes son am Rowland Williams, duwinydd mwyaf Cymru, yn Llanbedr heddyw ; buom yn byw yn Llanbedr am ddwy flynedd heb glywed ei enw. Mae mawr wahaniaeth, ni a wyddom, rhwng gogoniant seren a seren, ond siomedig yw meddwl fod gogon- iant ffair Dalus wedi cymylu seren ddysglaer gwrthrych yr erthygl hcn. " Nid oes anrhydedd i brophwyd yn ngwlad ei hun,"—eithaf gwir, ond tynged mwy garw na hyn yw i ddyn gael ei Iwyr anghofio gan ei wlad ei hun. HON yw tynged Rowland Williams. Nid anghofiaf, ar frys, fy syndod pan ddysgais nad oedd un o lyfrau yr ysgolor ardderchog hwn i'w gael ar werth yn siop lyfrau yr Eglwys yn Llanbedr. Gwerthir hanes Twm Shon Catti a'r Bardd Cw»g yno, a llawer o lyfrau ysprydoledig eraill, ond ofer fyddai gofyn am un o lyfrau Rowland Williams, yr enw mwyaf dysglaer yn hanes Coleg Dewi Sant. PWY OEDD Y ROWLAND WlLLIAMS HWN ? Mab ydoedd i offeiriad dysgedig a Chymro brwdfrydig o Sir Fflint.