Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR * Y/AOFYNYDD Cyîchgrawn Misol y Gymdeitha* Undodaidd Gymreig. " Profwch bob ỳeth : deliwch yr hyn sydd dda."—Paid. Cyfres Newydd.] IONAWR, 1902. [Cyf. II. Rhif 1. CAPEL PANTDEFAID. Gan y Parch. T. Thomas, Y.H., Green Park. Rhagarweiniad. ^JjPY rahrif amcan wrth gymeryd yr ysgrifbin mewn llaw yw ys- jgfií) grifenu rhyw ychydig o hanes Capeì Pantdefaid yn nghyd a'r achos crefyddol a gynelir yno er ei ddechreuad—ei hanes fel cangen o Lwynrhydowen, a'r olaf fel cangen o Bantycreuddyn. Wrth geisio gwneuthur hyn, efallai, yn ol barn rhai o ddarllenwyr llym-fanol Yr Ymofynydd, y bydd i mi grwydro a chrybwyll rhai pethau na fydd- ant yn gyfangwbl berthynasol i'r testyn. Boed hyny fel y byddo, ymdrechaf foddloni fy hun, a gwnaed y beirniaid yr un gymwynas iddynt eu hunain. Yr wyf yn cael fy nhueddu i feddwl mai nid anyddorol i rai anghyfarwydd mewn llenyddiaeth dduwinyddol fyddai i mi goffâu mor fyr ag y medraf am y ddwy brif gyfundrefn fu mewn cydymgais a'u gilydd am hir amser, ar y Cyfandir yn gyntaf, ac yn y wlad hon, sef Calfiniaeth ac Arminiaeth. Sylfaenydd y blaenaf oedd John Calfin, yr hwn a aned yn Picardy, Gogledd Ffrainc," yn y flwyddyn 1509, ac a fu farw yn Genefa, Switserland, yn 1564. Swm a sylwedd y dduwinyddiaeth Galfinaidd oeddent y pum' pwnc canlynol: I. Etholedigaeth ddiamodol. sef fod y rhai a etholodd Duw yn y Cynghor bore yn gadwedig, a hyny yn anibynol ar unrhyw amodau. II. Prynedigaeth Neillduol, sef na fu Crist farw, neu na ddioddef- odd dros bawb, ond yn unig dros yr ethöledigion. III. Pechod Gwreiddiol, sef fod holl ddynolryw yn bechaduriaid yn Adda cyn eu geni i'r byd hwn. ■*