Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

154 DR- SION CENT. yfed ac ymbesgu ar gefn y werinos anwybodus. Felly, pa ryfedd mewn gwirionedd ei fod yn cael ei alw yn Lollard ? Oddeutu yr adeg hon yr oedd WicklifFe yn fflangellu yr offeiriaid yn Lloegr, a mwy na hyny, yr oedd yn Rhydychain efrydwyr ieuainc o Gymru, ac wrth bob tebyg rai a fuont yn ddysgyblion i Sion Cent—yr un adeg a phan oedd Wickliffe yno. Enwn Walter Brute, y "Lleygwr dysg- edig," yr hwn y dywedir am dano, iddo daenu egwyddorion y diwyg- iad drwy holl Siroedd Henffordd, Brycheiniog, a Maesyfedd; a chynnorthwywyd ef yn hyn o waith bendigedig gan ddau Gymro arall, y rhai oeddynt gyfeillion mynwesol i Sion Cent ac i Walter Brute, sef Wm. Swinderby a Stephen Ball. Yr oedd y fath ddylan- wad ac arddeliad yn dylyn cenadaeth y gwyr duwiol hyn yn Sir Henffordd a'r cyffiniau, fel y cawn i awdurdodiad gael ei lawnodi gan y Brenin Rhisiart II. yn 1392, cyfeiriedig "at bendefigion a bonedd Swydd Henffordd ac at Faer y ddinas," yn eu hawdurdodi i erlyn Walter Brute, &c, a diwedd y gwyr da hyn fu cael eu llosgi yn Smithfield, Llundain, yn 1401. Nid oes yn ein meddwl yr amheuaeth leiaf nad Sion Cent fu eu hathraw a'u tywysydd at y cyfryw egwyddorion rhyddfrydig—yn wladol a chrefyddol. Tybed ai nid ei sêl dduwiol a'i frwdfrydedd sanctaidd ef a gynneuasant ynddynt hwythau yni ac ymroad di-ildio i'w gweithio allan, er goleuo eu cyd-ddynion dall ac anwybodus, oeddynt ar gael eu llethu gan ormes a gorthrwm y gwyr eglwysig ? Ond yn gymmaint ag i'r fath dynghed chwerw orddiwes y gwyr duwiol hyn, naturiol iawn yw gofyn, Pa fodd y diangodd efe rhag cael y fath driniaeth ag a gawsant hwy ? Wel, nodwn a ganlyn, barned a farno. Gwelsom fod Sion yn gapelwr yn nheulu Scuda- more (yr oedd hwn yn briod a merch i Owain Glyndwr), a gwyddom oll pa fath driniaeth ofnadwy a roddodd Owain i'r mynachod ac i'r sefydliadau eglwysig yn mhob man trwy Gymru, hyd nes yr oedd ei ofn a'i arswyd ar bob gwr lleyg drwy'r dalaeth. Gwyddom hefyd mai yn nhy y ferch hon y treuliodd Owain flynyddoedd olaf ei fywyd (fel ffoadur, medd rhai), a chan y trigai Sion o fewn yr un muriau oeddynt yn amddiffynfa i'r fath wron rhyfelgar ag Owain Glyndwr, pwy o'r gwyr eglwysig a feiddiai estyn bys na bawd i ddrygu Sion Cent yn y fath encilfa gadarn ? Sut bynag am hyn, diangodd Sion rhag cynddaredd y cwn gwancus a'r bleiddiaid rheibus oeddynt yn sychedu am waed pob un a feiddiai eu gwrthwynebu a'u ceryddu am eu hannuwioldeb a'u cribddeiliaeth annyoddefol. Yr ydym am nodi un ffaith bwysig arall yn nglyn a bywyd Sion Cent. Bu farw Owain Glyndwr, rai blynyddoedd o flaen Sion, a chan mai yn Monington (palas a chartrefle Scudamore, ei fab-yn- nghyfraith) y bu efe farw, ac fod Sion yn gapelwr i'r teulu, a ydyw yn ormod i ni gredu mai efe fu yn gwasanaethu uwch bedd yr olaf a'r dewraf o Dywysogion Cymru ? Hefyd, gan y gwyddom na feiddiasai un offeiriad na gwr o fynach fyned yn agos i breswylfa Owain, gan faint ei ddygasedd tuag atynt. Felly, rhoddwn yn ddi- betrus yr anrhydedd o dalu y gymmwynas olaf mewn ffurf o gyf-