Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MANION A HANESION. 19 could oheerfully resign myself to the Almighty Father; but still I cannot help regarding pain and misery and ignorance and vice as real though necessary (i.e., unavoidable) evils. Evils I call them; but I agree with you that without them we could not obtain the greater weight of good." y OODWM. Pau glywodd John Foster fod y dysgedigion wedi darganfod eira ar begynau y blaned Mawrth, aeth yn drist iawn. Ymresymai fel hyn, fod yr eira yn golygu oerfel; oerfel, dyoddefaint; dyoddefaint, pechod ; a phechod ar blaned arall—estyniad dychrynllyd o'r felldith a'r cod- wm. Fe'i gwnaeth yn drist, am ei fod yn credu, er mor fawr oedd, fod y byd mawr hardd hwn wedi ei ddryllio a'i ddinystrio yn y cnoad o'r afal; fod gwrryw a menyw mor anmhrofiadol â dau faban, wedi eu gosod mewn sefyllfa i wneuthur drwg nas gwn am ei gyffelyb. Medd- yliwn am danaf fy hun yn gosod fy machgen pum' mlwydd ar locomo- tẁe—agerbeiriant trôn mawr, ac yn rhoddi'r lever iddo, gyda thuedd gref ynddo i'w droi, a gorchymyn pendant i'w adael yn llonydd ; yna ei adael at ei ddyfais ei hun, a'r teithwyr i'w tynghed. Mae y gy- mhariaeth yn rhy wan i ddesgrifio ofnadusrwydd athrawiaeth gyffredin y codwm. Mae priodas, fel y wenynen, yn adeiladu ty, yn casglu melusder, llafur, ac yn uno cymdeithas, yn cadw trcfn, yn dwyn y rhinweddau i ymarferiad, yn cynnyrchu lles cyffredinol dynolryw, ac felly yn cyfan- soddi y cyflwr hwnw ar gyfer yr hwn y mae Duw wedi bwriadu cyfan- soddiad presenol y byd. CAU Y TAFARNDAI AR Y SUL. Caniatewch i mi, gyda phob tynerwch, ond er mwyn cyfiawnder, i ddywedyd fod y paragraph ar y pen hwu, tud. 274, wedi ei gamleoli lle y mae. Nid oes iddo un rhith o wirionedd yn ei berthynas à Hen Dŷ Cwrdd, Aberdar. R. J. Jones. «JJÌanian a Ipmttöian. Blin genym glywed am afiechyd par- haol y Parch. W. James, B.A., o Lan- dyssul, a'i fod, o'r herwydd, wedi gorfod rhoddi i fyny ofal y cynnulleidfaoedd y niae wedi bod yn gweinidogaethu mor dderbyniol iddynt am gynnifer o flynydd- oedd. Cynnaliodd Ysgol Sul Caeronen ei gwyl dê flynyddol eleni, fel arfer, yn Wern Cottage, Cellan ar yr 17eg o Ragfyr. Yr oedd y plant yn edrych yn y blaen at y wledd gyda dyddordeb a dysgwyliad mawr, ac y mae genym bob lle i gredu na chawsant eu siomi yn eu dysgwyliadau. Erbyn tua cbwech o'r gloch, aethpwyd i'r capel i gael gwledd etto i'r meddwl, ac yr wyf yn credu mai nid gormod yw dywedyd mai y cwrdd hwn oedd y goreu o'r holl gyrddau da o'r natur hwn ydym wedi gael yma. Aeth yr holl adroddwyr a'r cantor-