Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

—( 268 )— " GADEWCH I BLANT BYCHAIN DDYFOD ATAP FI/ 'Bwy'n meddwl wrth ddarllen yr hanes hen, hen, Am Iesu pan oedd yn ein byd, Modd galwai y plant ato gynt gyda gwên, Yr hoffwn fod yno ar y pryd ; A chael ganddo roi ar fy mhen ei hoff law, A'i fraich o fy amgylch mor gu, A gweled ei wên pan yn dweyd yn y taw, " Gadewch iddynt dd'od ataf fî." Pe byddai ond yma, fe roddai efe Ei wên ar fy nghais i'w foddhau, C'ai sain fy Hosana fry esgyn i'r ne', Ac ato gwnawn fyth agoshau ; A phe gwnaent geryddu neu 'ngyru i bant, Mi lynwn gylch ogylch ei glin,— Adroddwn ei eiriau ei hun am y plant, " Gadewch iddynt dd'od ataf fi." Ac etto, i'w gartre'n y nef wyf am fyn'd, Gan geisio'n ei gariad gael rhan ; Os bydd i mi ddylyn ei ol megys ffrynd, Ca'i glywed a'i wel'd yn y man ; Mae 'nawr yn ei Wynfa, wych le'n parotoi I'r rhai ufuddhânt ùldo ef, A Uawer o blant ydynt ato'n crynhoi, " Can's eiddo y cyfryw yw'r uef." Ond miloedd ar filoedd sy'n crwydro y byd Na chlywsant am nefoedd erioed, 'Bwyf am iddynt wybod fod lle i'r holl fyd, A'r Iesu'n gwahodd iddynt dd'od ; Ac 0, na chawn weled llon wawriad y dydd Cynnullir plant bach o bob lle, I lawn etifeddiaeth y mwyniant hoff sydd I bawb yn nhrigfanau y Ne'. Jemima Luke. ENWOGION ANNGHOFIEDIG. Yb wyf wedi meddwl lawer gwaith y fath drueni yw ein bod yn gadael i enwau cymwynaswyr ein gwlad i syrthio i ebargofìant. Paham yr ydym mor esgeulus ? Y mae bywgraffiaeth ein dynion mawrion yr hanes goreu a gwerthfawrocaf o bob hanes. Myn rhai mai dyna ydyw yr oll o bob gwir hanes. Yr wyf, yn y llinellau hyn, yn awyddus i osod gerbron y darllenydd yr oll wyf wedi ei gasglu am