Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYDD HYNAWS----NODYNAU GWASGAROG. 275 Bydd fwyn i'r syrthiedig, sy'n byw ond i flinfyd, Bydd fwyn i yr alltud, sy'n chwennych dychwelyd, Bydd fwyn i'r gwargaled, na plilygodd niewn gweddi, Ac hefyd i'r ofnog, sydd yn digaloni! I'r gwan a ormesir, i'r camgyhuddedig, I'r hwn a watwarir, i'r dyn gwenieithiedig, I'r sawl wnelo gam, a'r sawl gafifo gamwedd, I bob un o honynt, 0 ! dangos hynawsedd. Canys eang yw maes y meddwl caredig, Ond eiddo'r hunanol sy'n gylch cyfyngedig; A disglaer yw ro Ifa'r dyu mwyn ac unionfryd, Ond 0 ! mor dwyllodrus yw ffordd y balch ynfyd ! Gan hyny i henaint, rho barch tra y gallot, I'r tlawd, tra ar roddwr pawb rhadau gweddiot, I'r eiddil neu'r crwydriad, dan bwys ei galedi, A'th gwpan gorfole;ld orlenwir cyn 'fory. CvNONWYSON. NODYNAU GWASGAROG. Mao y Parch. J. E. Kilsby Jones, yn ei erthygl ar Griffith Jones, Llanddowror, yn y South Wales L)aily Wews, yn rhoi gwers y dylai Eglwyswyr ddysgu a bod yn ddiolchgar am y wers—"Fod gweiuidog- ion crefydd yn bodoli er mwyn y bobl, ac nid y bobl er mwyu yr offeir- iadaeth, ac fod Cristionogaeth yn bodoli er mwyn dyrchafiad yr holl deulu dyuol, ac nid er mwyn yr amcan begeraidd a dirmygus o ddyr- chafu rhyw uifer o ddyniou cyífredin iawn (very commun-place) i uch- afiaeth gymdeithasol ardficid—uchafiaeth sydd wedi ei defuyddio yn rhy fynych at amcaniou annheilwng a gwarthus." Y PARCfl. WM. EVANS. Mab ydoedd hwn i John a Sarah Evans, Cefngwili, ger Caerfyrddin. Ganwyd ef Medi, 17G9, a bu farw Mai 3, 1847, wedi bod yn agos 50 mlynedd yn weinidog Tavistock, ac yn athraw ysgol yn y gymmydog- aeth. Yr oedd yn nai fab brawd i'r Parch. W, Evans, Sherbourne (tud. 269). Cafodd y fraint o addysgu rhai a gyrhaeddasant enwog- rwydd wedi hyny, megys Syr Michael Seymour, Syr Ëdward Cod- rington, Syr Bichard King, ac Admiral Tollemache, &c. Pan briododd yn Taunton yn 180G, aeth i fyw i'r ty lle y cafodd Syr Francis Drake ei eni. Yn amsor Mr. Evaus, yr oedd y coleg yu Abertawe, a'r ath- rawon ar y pryd oeddyiit y Parchn. Thomas Lloyd, mab John Lloyd, Brynllcfrith, a W. Howell. Yr oedd Lewis Loyd (y bancer enwog