Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMOFYNYDD. Rpiip. 14.] CHWEFROR, 1860. [Ail Gyfres. SEFYLLFA WAREÎDDIOL Y CYMRY. fParhad o tud. ló, Cyf. II.) III. III. Gelwir cyfundrefn HamiJton yn Athro.yiaeth y Cyflyredig, (u The Philosophy of ihe Conditioned") a hòna efe na fíurfir, ac nad ellir fíurfio, un drychfeddwl am amser a lle ynddynt eu hunain ; fod y fíeithiau ymwybyddol ynghylch bodolaeth y byd gweledig a'r bôd a'i gwel, yn rhag- flaenol i un prawf, ac i'w credu yn reddfol neu uniongyrchol (intuitively ). Dywedai Des Cartes, Cogito eryo sum (meddyliaf, yna ydwyf.) gan wneyd y prawf o fodolaeth yn ganlyniad i'r weithred feddyliol. Ond yn wrthwyneb i hyn, cymer Hamilton yr honiad ydwyf yn gareg sylfaen i'w adeilad, yn fíaith reddfol ac annibynol yn rhagflaenu pob prawf, ac yn bodoli hebddo ; ac hefyd, fod tystiolaeth yr ydwyf yma am fodola'eth y byd aîlanol, yr un mor reddfol ac annibynol. Yr honiad o fodolaeth, ac o fôd dynoî, ydyw gwreiddyn yr Athroniaeth hon ; ac am hyny derbyn yr enw Philosophy of Common Sense, gan nad oes un dyn a arfer ei synwyr cyfíredin yn unig ÿft ammheu ei fodolaeth ei hunan, na bodolaeth y l>yd allanol. Rhaid i ni yma gymeryd yn ganiatäol íbd y darllenydd yn gyfarwydd â hanes athron- iaeth y meddwl, ac yn gwybod fod rliai, megys Locke, Condillac, ac erail!, yn gwadu nad oes genym un drychfeddwl ond yr hyn a dderbynir oddiallan ; ac fod Berkeley, Fichte, ac eraill, yn gwadu bodolaeth y byd allanol. Mae Reid, a Hamilton ar ci ol ef, yn pleidio fod tystiolaeth y Synwyr CyfFredin yn sicrhau nid }~n unig fod byd allanol, ond hefyd fod tystiolaeth ein syn- wyrau am dano yn wirioneddol, ac fod genym ddrychfeddyliau greddfol nad ydynt ddeilliedig o'r byd allanol, nac wedi eu derbyn trwy gyfrwng y syn- wyrau. Tybia yr Archddiacon fod yr honiad o fodolaeth, sydd mor nod- v^eddol o gyfuncîrefn Reid a Hamilton, yn ddrychíeddwl adnabyddus i'r hen Gymry hefyd ; a hòna fod prawf o'r ffaith yn nghyfansoddiad yr iajth Gym- raeg, ac yn neilîduol yn y geiriau, Bod, ' ' Dy-fod, Can-fod, Gor-fod, C\'far-fód, Gwy-bod, Dar-fod, Han-fod,* * Gomer, Part II., pagc vi. CYF. II. D