Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tfi YMOFYNYDD. 175 i, a'ch Duw chwithau.—Iesu Grist. Argraphwyd yn Llundain gan Biggs a Chottle. 1803." Ar tudalen 20, cawn i'r cyfeisteddfod cyntaf gael ei gynnal yn Nghastell-Nedd, lle penderfynwyd yn mhlith pethau ereill fod holl lyfrau'r gymdeithas i gael eu hargraffu ar yr un rhyw bapur a phlyg, er eu cyd-rwymo. 26. "Attebi'r gofyniad Pahamyrwytyn Griston? ganJohn Clark." 27. " Cynghorion Difrifol i Gristonogion Cyffredin ac annysgedig. 1 Cor. x. 15.—' Bernwch chwi beth yr wyf fì yn ei ddywedyd.' Ar- graffwyd gan J. Voss. 1803." 12 tdd., gyda rhestr o aelodau Cym- deithas y Dwyfundodiaid. 28. " Ystyriaethau Pwysfawr mewn dwy bregeth,—1. Ar ddaioni Duw, gan y Parchedig John Davies, Rector Llanddetty ; 2. Ar Ddrwg Fycheddau dynion fel y gwir achos o Anghrediniaeth, gan y Parchedig Thomas Ryle." Mewn llythyr dyddiedig, Rhagfyr 7, 1804, y mae'r Parch. W. Richard o'r Lynn yn gwneuthur cyfeiriad at gyhuddiad o heresi a ddygir yn ei erbyn ef. Seilid y cyhuddiad yn benaf ar ryw draethawd a gyhoeddwyd gan y " Gymdeithas Undodaidd," ac a briodolid i W. R. Dywed W. R. mae'r awdwr oedd tad Mr. Rees o Ipswich. Dywed Dr. Thomas Rees mae nid ei dad oedd yr awdwr, na wnaeth efe ond ei gyfieithu yn unig. Gweler Evans's Life of Richards, tud. 121. Mae'n debygol felly mae JosiahRees oedd cyfieithydd un o'r tri llyfr diweddaf. Pa un ? 29. " Dyledswyddau Cristionogion mewn perthynasi'r gwirionedd; a draethwyd, mewn pregeth, i gynnulleidfa o Dcìwyfundodiaid yn Ipswich, y 15fed o Ebrill, B.A. 1804; ar yr achos o farwolaeth y diweddar Barchedig Doctor Joseph Priestley, F.R.S. Gan Thomas Rees, gweinidog yr Efengyl yn y Gellionen. A gyhoeddwyd yn y Gymraeg gan Gymdeithas y Dwyfundodiaid yn Neheubarth Cynmru. Abertawe : Argraphwyd gan Evans and Son. 1805." 46 tdd. 30. "Dau Egwyddoriad, (Catecism) i Blant a Phobl Ieuaingc; y cyntaf yn cynnwys Holiadau ac Attebion amlwg; a'r ail yn cynnwys Holiadau Ysgrythyrol; ynghyd a Chyfeiriad at yr Ysgrythyr, yn lle attebion. Gan Joseph Priestley, L1,D., F.R.S. A gyhoeddwyd yn Gymraeg gan Gymdeithas Dwyfundodiaid yn Neheubarth Cymru. Hyffordda blentyn yn mhen ei ffordd, a phan heneiddia nid ymedy à hi.—Solomon. Caerfyrddin : Argraphwyd gan John Evans, yn Heol- y-prior. 1805." 52 tdd. 31. " Golwg Cyffredinol o'r Profìon dros Undod Duw, ac yn erbyn Duwdod a Rhaghanfod Crist; oddiwrth reswm, oddiwrth yr Ysgryth- yrau, ac oddiwrth Hanes yr Eglwys. Gan Joseph Priestley, L.L.D., F.R.S. Etc. A gyhoeddwyd yn y Gymraeg gan Gymdeithas y Dwyf- undodiaid yn Neheubarth Cynmru.—Un Duw sydd, ac un Cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu: 1 Tim. ii. 5. Na cherddwch ar ol Duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o'ch am- gylchchwi: Deut. vi. 14. Abertawe: Argraphwyd gan J. Evans, 1806." 42tdd.