Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dosb. I Class. YR YMOFYNYDD. Cyfees Newydd.] BHAGFYR, 1873. [Rhif 10. Profwch bob peth : deliweh yr hyn sydd dda.—Paül. Y BYWYD TRAGWYDDOL. IOAN XVII. 3. [Mb. Goii.—Gwelaf eich bod yn cyhoeddi ambell i bregeth. Oa bydd yr un a ganlyn yn dderbyniol, mae at eich gwasanaeth. Ysgrifenwyd hi yn Chwefror 1863, oddiwrth notes a gymmerwyd o bregeth a draddodwyd gan y Parch. John James o Gellionen yn Nghaerfyrddin, Mehefin 1862. Pa faint o nodwedd yr hen batriarch sydd yn aros arni, gadawaf i'ch darllenwyr i farnu. Digon tebyg ei bod yn dwyn peth o liw ysgrifell y cofnodydd.—Pwy] . Yn y pennodau o'r blaen, mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi bod yn dywedyd cymmaint ag a feddyliai yn angenrheidiol i roi cysur ao annogaeth i'w ddysgyblion, yn wyneb ei ymadawiad ef â hwynt ao â'r byd. A chan deimlo a gwybod fod ei amser ar ben, maeyntroiei wyneb tua'r nefoedd, ac yn gweddio ar ei Dad. Mae'r weddi hon yn gwneuthur i fyny y bennod. Mae yn gweddio yn gyntaf drosto ei hunan, wedi hyny dros ei apostolion, ac wedi'n dros ei ganlynwyr yn mhob oes dros yr holl fyd. " Y Tad daeth yr awr, gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau." " Daeth yr awr," h.y., yr awr pan y byddai ei weinidogaeth ef ar y ddaear yn terfynu. Wrth y gogoniant y mae i ni i feddwl, yn ddiammheu, yr un peth ag yn y pennodau o'r blaen—llwyddiant ei efengyl Ef, lledaeniad ei grefydd yn y byd. Canys pan oedd y Groeg- iaid, y rhai oeddynt Genhedloedd, yn ceisio ei weled, dywedodd, " daeth yr awr y gogoneddir Mab y dyn," h.y., fel y mae yn ainlwg oddiwrth y cyssylltiad, trwy ledaeniad ei efengyl yn mhlith y cenhedl- oedd. At ledaeniad yr efengyl, ac at y dygwyddiadau rhyfedd oedd yn angenrheidiol i hyny, megys ei adgyfodiad oddiwrth y meirw, a'i esgyniad i'r nefoedd, a derbyniad yr Ysbryd Glâü, y mae yn syfeirio yn awr, wrth weddio ar y Tad i ogoneddu y Mab. Yr hyn syddyn ei GYIá&U ■..-. . . :,■.,„■ .. ......■;-, . ^ „. ■ - '«-"*