Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMOFYNYDD. i; PflOFWCII ROB PETH : DELIWCÜ YE HYN SYDD DDA."—PAUL. CHWEFROR, 1870. CYFRESWM HÜME YN ERBYN GWYRTHIAU. Meddyliodd yr athronydd hwn y buasai yn dymchwelyd—yn lladd y grefydd Gristionogol ar unwaith â'r rheswm byr canlynol:—" Mae yn groes i brofiad fod gwyrth yn wir, ond nid yw yn groes i brofìad fod tystiolaeth yn gelwyddog." Rhaid addef foä gormod o wir yn yr ail osodiad uchod, sef " fod tystiolaeth yn gelwyddog." Mae yn aml felly, fel mao gwaethaf y modd; ond yn mha lyfr y darllenodd, neu gan ba ddysgawdwr y clywodd, mai gwirionedd yw fod gwyrth yn groes i brofíad ? O leiaf, nid y w yn debyg iddo ddysgu hyn gan yr hauwr na'r medelwr, na chan greadur mud, nac un bôd rhesymol a deallus yn dal cysylltiad â hwsmonaeth. Yn groes i brofìad, yn wir ! Ai croes i brofiad yw dangosiadau yn y byd allanol na all meddwl dyn, nad yw y cryfaf a'r ëangaf ond eiddil, eu dirnad ! Byddai yn llawer agosach at y gwir, debygem, i ddyweyd fod dangosiadau o fewn profiad hyd yn nod yr hwsmon na ellir briodoli i ddim yn amgen na nerth gwastadol y gallu Dwyfol a grëodd bob peth. Dacw'r hedyn yn syrthio i'r ddaear. Pwy sydd yn rhoddi iddo gynydd ? oblegid yn mhen ychydig fe'i gwelir yn blaguro, ei ddail yn tòri allan, yn cynyddu, yn lledaenu, ei gorsen yn ymestyn i fynu, a'r blodau yn ymagor, a'r rhai hyny yn y fath harddwch a gogoniant nas gall celfyddyd bytb eu hefelychu. Beth weithia yn y llysieuyn i achosi y cyfnewidiadau a'r cynydd yma o'r hedyn i'r blodeuyn? Beth yw'r yni sydd yn gweithio ynddo? "Cyfraith natur," meddai rhywun an- ystyriol. Rhywbeth rhyfedd yn ngolwg rhai yw " cyfraith natur." Ai bôd deallus a gweithgar yw "cyfraith natur"? Grellid meddwl felly, wrth glywed rhai yn siarad. Ond beth yw " cyfraith natur " ? Onid y dull ydyw, neu'r modd trwy yr hwn y mae'r Pen Saer yn cadw ei waith mewn trefh? Pwy roddodd fywyd yn yr hedyn? O ba le daeth y bywyd ? Beth ydyw, a phwy sydd yn ei gynal ? Nis gall natur wneyd dim o'r fath, oblegid effaith ydyw natur ei nun—gwaith y Crëwr. Beth sydd yn achosi i'r hedyn fìaguro pan yn y ddaear ? Nid yw gwres yr haul a lleithder y gwlaw ond ansoddau. Nis gall fiaguro o'i allu ei hun, mwy nag y gallasai y darllenydd roddi bodolaeth iddo ei hun. Mewn gair, olrheiniwch achosion ac efíeithiau mor fanyled ac mor belled ag y mynoch, yi* ydych yn rhwym o ddyfod yn y diwedd at nerth neu yni