Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-1 YR YMOFYNYDD. PROFWCU BOB PETH: DELIWCH YR HYN SYDD DDA.—PAÜL. IONAWR, 1870. TRI UGAIN O RESYMAU PAHAM NAD Y GWIR DDUW OEDD CRIST. Yr oedd gweithredoedd nerthol yr Iesu mor ddyeithr i'r byd, ei ddoeth- ineb mor syml a tharawiadol, a'i ymddygiad moesol mor fawreddog a dyrchafedig, fel nad yw yn wir yn beth i'w ryfeddn i ddynion hanner paganaidd dybied mai nid dyn, ond duw ydoedd. Y rhyfeddod yw, fod dynion mewn oesoedd diweddarach, sydd yn meddu ar lawer gwell man- teision gwybodaethr p hyd yn glynu wrth yr athrawiaeth. Pa fodd bynag, mae'r dyb hon am Iesu Grist yn hollol ddisail yn yr ysgrythyrau, ac yn groes i reswm. Y àull cyffredin o ateb y rhesymau canlynol yw dyweyd, "fel yr oedd'yn ddyn ac fel yr oedd yn Dduw." "Fel yr oedd yn ddyn," dywedir, "ni wyddai ddim; fel yr oedd yn Dduw, "gwyddai bob peth." Ychydig feddylia y dÿnion da sydd yn defnyddio y rheswm twyllodrus hwa, eu bod yn diraddio Iesu Grist yn llawer mwy na'r cyfryw a gredant am dano gyda golwg ar ei berson, ei fod y peth y dy- wedai ei fod, sef Mab y Dyn, Mab Duw, a'r Messiah a rag-grybwyllir yn yr Ysgrythyrau. Cymerwyd y rhan fwyaf o'r rhesymau canlynol allan o'r Ghristian Inquirer. DYNOLRWYDD YR IESü. 1. "Ac wedi geni yr Iesu." Mat. ii. 1. A allasai y Duw tragwyddol gael ei eni ? Yr Anfeidrol Jehofah â mam ganddo! 2. "A'r Iesu a gynnyddodd mewn doethineb a chorfíblaeth." Luc ii. 52. Yn gymaint â bod Duw yn anfeidrol er pob tragwyddoldeb, ni fu yn llai nac yn fwy nag y mae, erioed. 3. "Yr Iesu gan hyny yn ddifíygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y fíynon." Ioan iv. 6. A ydyw yn bosibl i'r Hollalluog deimlo yn ddiffygiol ? 4. "Eithr efe oedd yn cysgu." Mat. viii. 24 Yr Anfeidrol Dduw yn cysgu! Dywedir am dano, (Salm cxxi. 4,) "Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel." 5. " Ac efe a fu yn y diffeithwch yn cael ei demtio gan Satan." Marc i. 13. Ond oni ddywedir am Dduw, (Iago i. 13,) "Canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb ? "