Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMOFYNYDD. 'PBOFWCH BOB PETH: DELIWCH YB HXN SYDD DDA.—PAUL. EBRILL, 1868. DYLANWAD CRIST. Dyben cenadwri Crist yw achub y byd. " Ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio'r byd, ond fel yr achubid y b}^! trwyddo ef." Ond pa fodd mae Crist yn acbub y byd? Yr ateb yw, trwy waredu dynion oddiwrth eu pechodau. Acbub y byd mae trwy ddyrchafu cyineriad y byd. Achub efe y neb a gred ynddo trwy ddylanwadu ar ei enaid er gwell. Dyben danfoniad yr Iesu yw cyfnewad, dyrchafu, puro ymar- weddiad moesol ac ysbrydol dynolryw. Ond trwy ba foddion mae'r cyfnewidiad yn cael ei ddwyn oddiamgylch? Atebir, ac y mae'r atebiad yn ddiau yn iawn, trwy y gwirionedd a dra- ddododd. Ond dywed rhai na waeth pa fodd y ceid gwirionedd yr Efeagyl, ond ei gael; fod hyny yn ddigon. O'r tu arall, ymddangos y mae i ni nad all dim fod yn fwy cyfeiliornus na'r dyb hon. Pe ymddifadid yr Efengyl, sef y damhegion, yr jnnddiddanion, yr addysgiadau moesol, yr egwyddorion sydd ynddi—pe ymddifadid hwynt, meddwn, o ddylanwad personol yr Iesu, sef o'r peth ydoedd fel Mab Duw, o'i weithredoedd nerthol, ei groes, ei adgyfodiad, a'i esgyniad i'r nef, ni fyddai'r Efengyi ond llythyren farw; byddai megys corph heb ynddo anadl einioes. Mae'r Iesu yn achub y byd trwy y gwirionedd a draddododd, ond y peth sydd yn rhoddi bywyd yn y gwirionedd ei hun yw bywyd yr Iesu. Canfyddwn yr un egwyddor mewn gweithrediad yn mywydau dynion cyífredin. Nid oes achos braidd sylwi fod ymddygiad dyn rhinweddol a chariadus yn cael efí'aith anghydmarol fwy ar ei gyd-ddynion, na grym ei ddeall neu helaethrwydd ei wybodaeth. Ni wnai darllen yr hyn a ysgrifenwyd gan holl ddoethion y byd ar foesoldeb a dyledswyddau dyn gymmainto ddaioni i'r galon, d threilio diwrnod yn nhwym gyfeillach dyn doeth, rhinweddol, cyfeillgar, a phur o galon. Nid yn fynych y treiddia doeth ymadrodd ar rinwedd a moesoldeb yu mhellach na'r pen. Llefarai