Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMOFYNYDD. Rhif. 45.1 MEDI, 1862. [Ail Gyfres. Y BRENIN CASWALLON. TESTUNT EISTEDDFOD Y CARW COCH, ABERDAR, (1857.) (Parhad o tudai. 177.) Wrth ganfod y celfradwriaethau a wnaed yn ei erbyn gan Afarwy a'i ym- bleidwyr, Caswallon a ganfyddai nad oedd modd i wrthwynebu y gelynion, ac ni wyddai pa nifer o fradwyr allent fod yn ei wersyll ei hun, y rhai a fuasent mewn awr o gyfyngder yn troi eu harfau yn erbyn eu cydwladwyr, ac amddiíFyn byddinoedd Rhufain ; o ganlyniad Caswallon a ollyngodd yn ryddion y rhan fwyaf o'i alluoedd rheolaidd, gan gadw iddo ei bun a'i wasanaeth oddeutu pedair mil o'i gerbydau rhyfel a chymmeryd i fynu ei ddull- weddiad cysefin o ymladd amddiffynol, yn y coedwigoedd, &c, gan ymosod ar 'ei elynion bob adeg y caffai gyfle, gan yru y gwladgarwyr a'u diadell- oedd o'i flaen i'r coedydd ac i amddiffyn-leoedd er eu diogelwch, gan gadw ei fyddinoedd ryngddynt a'r gelynion, a gwarchae ar yr ymylon, y byddai y byddinoedd Rhufeinig yn ymlwybraw ar eu holau, ac ymosod ar eu meirch- filwyr a'ù rhengau gyda holl nerthoedd ei gerbydau angheuawl, ac felly yn Uuddedu y gelynion, mal nad anturient ar eu holau idd eu diogel-fanau, ond a ymfoddlonent ar losgi a dinystriaw tai a threfi y Prydeiniaid ffoëdig lle y caffent hwy. Yn y cyfnod yna anfonai un o bennaethiaid y Trinofantiaid (gwlad Mid- dlesex ac Essex yn bresenol) at Câisar, yn cynnyg ymddarostwng iddo a bod at ei wasanaeth ; ac yma y cawn Afarwy yn gwerthu ei wlad er ymddial ar ei ewythr, er ei fod ef wedi cael yr urddau uchelaf fel pendefig ag a allasai ef a'i frawd eu cael, ac yn ffoi i Gallia, ac ymgyngreirio a'r pennaeth Rhufeinig. Cofnoda y Trioedd iddo gynnal un o dri brad-gyfarfod Ynys Prydain, lle a phan y ffurfiodd gynnadledd i ddirgel gynghori y pennaethiaid Prydeinig, na wnelent wrthwynebu dyfodiad y Rhufeiniaid i dirio yn ynys Taned ar ail ddyfodiad Caisar. Yr amgylchiadau hynod yna a gadarnheir gan y cad- flaenor mawreddog hwnw yn ei hanes o'r gweithrediadau hyny. Dywed Enderly i dad Afarwy gael ei ladd gan Caswallon ; ond nid allasai hyny fod : efallai mai rhyw gâr neu bleidydd iddo a laddwyd. O leiaf trodd hyny y dafol yn erbyn y byth-gofus Caswallon, a chawn y Trinofantwys yn galw am gymorth Caisar i ddiogelu ac amddiffyn Afarwy, ynghyd ag amryw o'r llwythau cyífiniawl eraill, y rhai a anfonasant genhadau at Caisar yn ymbil am heddwch a nodded ei fyddinoedd rhag ofn Caswallon, gan ym- ddarostwng i'r awdurdod Rhufeinig. Wedi cael yr ymraniadau bradwrol CYF. IV. Y