Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMOFYNYDD. Rhif. 3^.] MAWRTH, 1862. [Ail Gyfres. ADDOLIAD TEULUAIDD. (Parhado tudal. 31.) " Gweddio: gwaith nid y genau ond y galon. Derchafiad y galon tuag at Dduw ; derch- afiad y llais neu'r lleferydd ar ol y galon. Nid yw gwaith y tafod ddim heb y gaîon, na gwaith y galon cystal heb ei ddatgan â'r lleferydd."—D. Griffith, Esgob Llanelwy, 1660. Yn y sylwadau a wnaed yn barod ymofynwyd pa beth a allasai fod wedi arwain i ryw gyrnaint o esgeulusdod o ddefosiwn cyhoeddus yn ein plith. Cyfeiriwyd yn benaf at barodrwydd dynion i redeg o un eithafion i'r llall. Ni olygid wrth hyn awgrymu fod gormod o ddefosiwn wedi fíỳnu yn ein gwlad ar unrhyw amser, nac ychwaith ei bod yn bosibl i neb feddu ar yspryd rhy ddefosiynol. Y cyfan a ddelid oedd ei bod yn eithaf posibl, ac mai y canlyniad naturiol yw, i olygiadau dychymygol am ddefosiwn, a Uawer o fanylder a dyfalwch yn yr ymaferiad a rhyw ddefodau neillduol a gyfrifir fel yr arwyddion priodol o hono, i dueddu dosparth lluosog i feddwl yn isel am dano ac ymwrthod a ffurfiau cyhoeddus. Dichon na fyddai yn anhawdd nodi achosion eraill, heblaw yr un hwn, naill ai yn tarddu o hono, neu ynte i ryw fesur yn annibynol arno. Ond nid amcanwn i fyned ar hyn o bryd yn mhellach yn y cyíeiriad hwn. Yn unig dymunem ddweyd gair, a chyn ter- fynu gwnawn, os bydd cyfle, o barthed i'r dyb ddisail a ymddengys fel yn ffynu mewn rhai manau, nad yw y ffydd Undodaidd yn gymhelliadol nac yn ffafriol i ddefosiwn. Yn awr awn rhagom i ymofyn ai ni fyddai yn ddym- unol, yn wyneb yr agwedd bresenol ar bethau, fod mwy o sylw yn cael eî dalu i ddefosiwn teuluaidd yn ein plith. Bach iawn o bwys mewn cymhariaeth yw p'a beth a dybia'r byd am danom, oblegid na chydreda ein ffyrdd a'r eiddynt hwy, a'n bod yn gosod ein hunain yn agored i sènau a chyhuddiadau oddiwrthynt fel rhai difater ynghylch crefydd bersonol a phrofiadol. Mae uwch ystyriaethau na hyn o lawer yn hawlio sylw, yn enwedig ar fater y mae a fyno yn uniongyrchol a chyfiead y meddwl ger bron chwiliwr y calouau. Condemnied neu gan- moled y byd, erys' ein dyledswydd ni yr un, mae dynol gymeradwyaeth yn eithaf dymunol pan y gellir ei enill ar dir iawn ; fel nad yw yn gweddu i ni ar y naill llaw i fod yn rhy awyddus am dano, nid yw yn gweddu i ni ar y llaw arall i fod yn rhy ddibris am dano. Ond gwell i ni ar unwaith godi'r pwnc i uwch tir na hwn; nid meddwl am ddynion fel a'u llygaid arnom, ond pwyso yn ddifrifol pa beth y mae yr Hollwybodol yn ei gymeradwyo, pa beth y mae crefydd yn ei ofyn, a pha amlygìadau allanol ydynt fwyaf cyson â dyledus barch i îywodraeth a gwirionedd y Goruchaf. CYF. IV. G