Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Î3 2Llaòmenẃò, Gyf XVIII.] TACHWEDD, 190*2. [Rhif 215. DYFODOL YR YSGOL SABBOTHOL. GAN Y PARCH. LEWIS WILLIAMS, WAENFAWR. Anerchiad a draddodwyd gerbron Cynhadledd o Athrawon, ynglyn a Chymanfa Ysgolion Sabbothol Dosbarth Caernarfon, ac a gy- hoeddir ar gais Ysgolion y Dosbarth. 3>ekbyniodd Ioan y Difinydd y commisiwn a ganlyn,—" Ysgrifena y pethau a welaist, a'r pethau sydd, a'r pethau a fydd ar ol hyn." Oorchwyl cymharol hawdd fyddai dywedyd beth a fu neu y sydd, ond, pwy fedr hysbysu beth a fydd ar ol hyn ? Credaf na fwriadwyd i mi geisio rhagfynegu a rhagddarlunio yr Ysgol Sabbothol: rhag- jhysbysu rhif, a threfn, a dylanwad yr Ysgol Sabbothol, y deugain mlynedd nesaf. Yn hytrach, diau mai yr hyn a fwriadwyd ydyw, i mi nodi allan yr elfenau hyny ynddi fydd yn sicrhau ei llwyddiant jn y dyfodol. Priodol felly yw i ni ddechreu yn y presenol. ARGYFWNG PWYSIG. Mae'n eglur i bawb fod yr Ysgol Sabbothol mewn argyfwng pwysig ar hyn o bryd, yr argyfwng pwysicaf feallai yn ei hanes, am fod yr .anhawsderau yn codi, nid yn gymaint o ddiffygion na rhagoriaethau yn ein trefniadau, ond yn hytrach o'r chwildroad meddyliol sydd wedi ac yn cymeryd lle o amgylch i ni, gyda golwg ar bron bob peth cysegr- edig. Nid yw LlyfrDuw, na Dydd Duw, nac ordinhadau Tŷ Dduw, yn sefyll yn y man lle yr oeddynt yn meddwl ein pobl. Nid yw lliaws deiliaid ein Hysgolion Sabbothol yn gwybod fawr am. yr àchos o'r cyfnewidiad hwn, ond gwyddant fod rhyw gyfnewidiad yn bod, a thynant eu casgliad eu hunain. Mae gweled dynion galluog yn "Deirniadu'r Llyfr, a phobl barchus yn tori'r Sabbath, a'r lliaws yn diystyru ordinhadau'r Tŷ, yn peri i'r anystyriol ac anwybodus dybied fod diwfedd ar bob peth cysegredig. Rhydd hyn grefydd ymarferol dynion ar ei phrawf yn ei pherthynas a phob adran o'r gwaith; ond yn neillduol felly ynglyn a'r Ysgol Sabbothol, am y gofynir mwy oddiwrth ein haelodau eglwysig yn yr Ysgol Sabbothol nag mewn unrhyw gylch arall. CYFNEWIDIAD DIFRIFOL. Mae'n wybyddus fod cyfnewidiad difrifol yn cymeryd lle yn y safle o'r hon yr edrychir ar bethau cysegredig ymhlith meddylwyr. I weled hyn gyda golwg ar yr Ysgrythyrau, darllener dau lyfr, sydd