Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

35 %laòmenẃb. Gyf XVIII.} MEDI, W02. [Lthif 213. SEFYLLFA CYMDEITHAS HEB GRISTIONOGAETH. GAN Y DIWEDDAR BAECH. W. R0BERT3, LLANRWST. " Ac y mae trueni dyn yn fawr arno." Y Pregethwr, Ni raid ond tafìu trem ar wledydd paganaidd mewn unrhyw oes i weled mor ddyledus yw y byd am ei wareiddiad i grefydd Iesu o Nazareth. Cyn ei ymddangosiad ef, yr oedd cymdeithas mewn ystad resynus hyd yn nod yn y gwledydd niwyaf goleuedig. I ddechreu, yr oedd canolfur o wahaniaeth rhwng cenedl a chenedl, a rhwng dyn a dyn. Nid oedd, y syniad am ddynion fel brodyr weai gwawrio ar feddwl neb. Honai y Groegiaid uwchafiaeth ar holl genhedloedd y byd; nid oedd y Rhuíeiniaid, yr Aifftiaid, a'r Phoeniciaid, er eu holl cfdysg' a'u gallu, ond barbariaid iddynt hwy. Y Rhufeiniaid hefyd a ystyrient eu hunain goruwch oll: cyfrifent bawb yn elynion, a clired- ent y gallent wneyd a phawb fel y mynent. Ac os trown o'r byd paganaidd, cawn yr unrhyw syniad yn ffynu yn fwy dan gysgod Iudd- ewiaeth, oblegid ymffrostiai had Abraham f^vy na neb yn eu huwch- afiaeth a'u rhagorfreintiau. Nid oedd yr holl genhedloedd iddynt hwy ond ysgymunbethau diwerth. Er y cydnabyddent fod pawb o un gwaed, anwybyddent y tebygolrwydd rhyngddynt fel y cyfryw. Fel hyn y dywedai un o'u Rabbiniaid:—" Hyn oll a ddywedais ger dy fron Di, O Arglw\'ckl, am i ti wneuthur y byd er edn mwyn ni. Am bobl eraill, y rhai hefyd sydd yn dyfod o Adda, ti a ddywedaist nad ydynt ddim, ond eu bod yn debyg i boeryn; a thi a gyffelybaist eu gwlad hwy i ddefnyn yn syrthio oddiwrth lestr." Os nad oedd y byd yn bod i'r Rhufeiniwr ond i'w ddarostwng, nid oedd yn bod i'r Pharisead ond i'w ddamnio. Cytffelyb i'r syniad am y gwahaniaeth rhwng cenliedloedd a'u gilydd oedd syniad yr hen fyd am y gwahaniaeth rhwng dosbarth- iadau a dynion unigol. Yr oedd ymhlith yr Iuddewon bendefigaeth grefyddora edrychai gyda dirmyg a chas angerddol ar y dosbarthiad- au isaf, y rhai a gyfrifent yn ' outcasts,' ac ' outlaws.' Nid oedd y dosbarth uchaf yn cyfathrachu mewn un modd a hwy. Yr oedd pob athraw i ymgadw yn hollol rhag gAvneyd dim er eu diwygio. Ni chaniateid eu tystiolaeth mewn llys barn, na neb i roddi tystiolaeth drostynt. Gwaherddid adrodd cyfrinach iddynt, ac hyd yn nod cyd- gerdded a hwy ar y ffordd. Mewn gair, yr oedd gagendor fwy sicr yno rhwng y ' classes ' a'r ' masses ' nag mewn unrhyw wlad. Ffynai caethwasiaeth ymhlith pob cenedl, ac yr oedd sefyllfa y