Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ì? XIaòmer^òb. Cyf XVIII.] GORRHËNAF, 1902. [Rhif 211. ANWYBODEG (AGNOSTICISM). Dichon mai prin y cyfiwyna y gair " Anwybodeg " i feddwl y dar- llenydd Cymreig yr ún syniad ag a gyfìwynir i'r Sais gan y gair " Ag- nosticlsm." Feallai mai y cynllun goreu gyda geiriau o'r fath fyddai êu defnyddio fel y maent, a rlioddi terfyniad Cymreig iddynt, heb ymgeisio at gael geiriau Cymraeg o'r un ystyr a hwynt. Felly y gwna y Saeson, ac felly y gallai y Cymry wneyd heb ofni llygru eu hiaith gyda bastardd-eiriau. Byddai y gair " Agnosticiaeth " mor Gymreig llawn ag ydyw " Agnosticism " o Seisnlg. Sicr yw fod peth sail i ym- ffrost yr hen ieithwyr Cymreig, fod yr iaith Gymraeg yn gyfryw ag y gellir ffurfio geiriau, o'i gwreiddiau hi ei hun i osod allan bob syniad, ac i ddynodi pob gwrthddrych newydd a ddarganf yddir; eto oferedd ydyw gwneyd ymdrech eithafol i fathu geiriau at bob angen a phwr- pas, er mwyn yr hyn a gamenwir vn burdeb ieithyddol. Y mae y Beibl Cymraeg yn hynod am burdeb ei iaith, eto ni phetrusodd ein cyfìeithwyr dysgedig adael llawer gair anghyhaith gyda therfyniad Cymreig iddo lithro i mewn i'r gwaith. Mae hyn yn ddoethineb gyda geiriau y mae yr arferiad o honynt wedi rhoddi ystyr arbenig iddynt, y rhai ý bydd yn anhawdd cael gair dealledig mewn iaith arall i gyfìeu yr holl feddwl a dim ond y meddwl fyddo yn perthyn i'r gair dan sylw. Y mae ystyr felly erbyn hyn i'r ga'.r " Agnosticisrn," o'r hwn y mae y gair " Anwybodeg" yn burion cyfieithiad. Rhyw gyfundrefn o Philosophi amheugar a olygir wrth y gair " Agnostic!sm." Dynion ydyw yr Agnosticiaid, nad ydynt yn gwadu dim nac yn addef dim: nid ydynt yn gwadu bodolaeth Duw, nac yn addef hyny chwaith, ond yn haeru nad yw y deall dynol yn alluog i benderfynu y cwestiwn y naill ffordd na'r lla.ll. Nid ydynt fel y Saduceaid yn dysgu nad oes angel nac ysbryd, ond yn dal nad ydynt hwy yn gwybod a oes y fath beth yn böd neu beddio. Gwi'thodant gredu pob gwirionedd ysbryd- ol, aan y daliant nad yw meddwl dyn yn alluog i benderfynu d.m yn nghylch y cyfryw. Gan y dysgant nas gall dyn gyraedd sicrwydd am bethau ysbrydol, ni ddylai ofalu fawr am danynt na thalu svlw neillduol iddynt. Gwendid neu anallu y meddwl i gyraedd sicrw>'"dd am danynt ydyw yr unig ddadl ganddynt dros be'dio eu derbyn na'u gwadu; ond gadael y cwesti\vn heb ei benderfynu, a bod yn hollol dawel o berthynas iddo. Feallai y dỳìid dangos pa fodd y mae yr Anwybodeg hon yn gwa- haniaethu oddiwrth Anffyddiaeth ? Yr oedd yr hen anffyddwyr yn.