Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ì? Xlaòmer^66* Cyf. XVIII.] MAWRTH, 1902. [Rhif 207. PROFF. DRUMMOND FEL EFENGYLWR. GAN Y PARCH. W. MORRIS JONES, LERPWL. m. Am rai blynyddoedd nid oedd yr adnod " Dyn a aned i flinder," wedi ei gwirio yn hanes Henry Drummond. Teimlai yn chwilfrydig i wybod yn brofiadol beth oedd poen? Yr hyn roddodd y syniad cjntaí iddo am natur trallod, ydoedd yr anhawsder y ca'dd ei hun ynddo i benderfynu owrs ei fywyd. Fel yr hysbyswyd genym o'r blaen, ar ymweliad cyntaf y ddau efengylydd Americanaidd, ymrodd- odd ein gwrthddrych i'w dilyn yn yr ymgyrch genhadol. Ni chy- huddir ni o ormodiaeth pan y dywedwn mai ef, er mor ieuanc ydoedd, a lewyrchai fel y seren ddisglaeriaf yn ffurfafen y symudiad efengyl- aidd hwnw. Pe wedi parhau ar y llinell hon, buasai yn ddiddadl yn un o efengylwyr enwocaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond ar derfyn dwy flynedd o lwyddiant eithriadol, gofynodd iddo ei hun gyda'r difrifwch a'r dwysder hwnw oedd mor nodweddiadol o hono mewn blynyddoedd diwcddarach, pa un ai aros ar y maes cenhadol, ai ynte myned yn ol i gwblhau cwrs ei efrydiaeth ydoedd ei wir ddy- ledswydd? Bu ateb y cwestiwn hwn yn orchwyl llawer caletach ganddo, nag ateb cwestiynau mewn arholiadau—y safai ynddynt mor agos i'r brig. Mae peidio gofyn cwestiwn fel hyn, neu ei ateb yn gyfeiliornus, yn achos o fethiant truenus yn hanes degau o ieuenctyd ein gwlad. I ddyn ieuanc mor fyw a Drummond, ymagorai gwahan- ■ol gylchoedd ddydd ar ol dydd ger ei fron, yr hyn a wnai ei feddwl^ am amser yn anmhenderfynol. Wedi edrych yn ol a blaen, ceisio yn ddyfal bob cyfarwyddyd dynol a dwyfol, daeth i'r casgliad wedi wyth- nosau o bryder mai myned yn ol i'r Athrofa ydoed^d amnaid rhaglun- iaeth Duw iddo. Wrth adolygu ei fywyd, credai yn ddiysgog nad ydoedd wedi camgymeryd. Gwelir mai nid dewis y llwybr esmwyth- af a wnaeth yr hwn a siorhai iddo lwyddiant buan, a chlod y gwled- ydd; ond ymgymeryd a meistroH gwersi dyrus mewn gwyddoniaeth, ac ymgymodi a'r syniad o fod yn efrydydd tawel ac anghyhoedd. Un prawf genym ei fod o dan ddwyfol arweiniad ydyw ei fod yn cyfeirio ei gamrau at lwybr oedd yn gofyn gryn lawer o ddewrder a hunan- aberthiad. Ond wrth gyfeirio ei gamrau i ffordd dysg a diwylliant, na feddylier ei fod yn cefnu ar waith cenhadol. Na, cael eneidiau at Grist ydoedd eá ' master passion.' Methodd hinaswdd oer yr Athrofa a rhewi ei gydymdeimlad—parhaodd ei ysbryd cenhadol yn fyw ao iraidd ar waethaf ei efrydiau sychlyd, a'i arholiadau celyd. Yn y man daeth yn ysgolor gwych—ond nid o'r radd fìaenaf, ac wedi hyny