Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf XVIII.] CHWEFROR, 1902. [Rhif 206. LLENYDDIAETH YR OES YN EI PHERTHYNAS A CHREFYDD. [TradJodwyd y sylwadau dilynol mewn Cymdeithasfa yn y Gogledd, ar ol darlleniad papyr ar y testyu uchod gan y Parch. R. E. Morris, M.A., Gwrecsain. Cyhoeddwyd y papyr y pryd hwnw, ond nid yw y sylwadau hyn wedi bod yn argraffe Jig o'r blaen, a diau y bydd yn dda gan ddarllen- wyr y Lladmerydd eu darlieu. Mae dau o'r siaradwyr erbyn hyn wedi niarw.—E. W. Eyans]. Parch. Griffith Parry, D.D., Carno.—Y mae yn sicr fod y pwno hwn yn bwysig ac yn amserol. Dywedai yr Arglwydd wrth y pro- ffwyd gynt: " Ha fab dyn, yn wyliedydd y'th osodais ar dŷ Israel." Yr ydym ninau yn. wyliedyddion; a phriodol iawn ydyw i Eglwys Dduw ofyn i ninau: " Y gwyliedydd, beth am y nos ? " A dylai fod genym atebiad. Disgwylir i ni fod a'n llygaid yn agored i ddeall ar- wyddion yr amseroedd, yn enwedig yn eu perthynas â chrefydd. Nis gall neb ystyricL ac sydd yn craffu rhyw gymaint ar ogwydd meddwl yr ces, lai na gweled, a galaru wrth weled, fod rhan fawr o lenyddiaeth y blynyddoedd hyn yn cael ei nodweddu gan yr ysbryd anffyddol. Nid golygiadau anffyddol yn unig, ond rhywbeth dyfnach na'r golyg- iadau, sydd o duedd ì'w cynyrchu ac yn fagwrfa iddynt—yr ysbr}-d anffyddol, y duedd i ameu, y duedd i wadu, ysbryd y cyfeiliorni. Sonir, nid yn unig am ffydd, ond am ysbryd ffydd,—" A chan fod genym yr un ysbryd ffydd." Rhywbeth o dan ffydd i'r hwn y mae ffydd yn addfed ffr\vyth. Naws neillduol ar 3^ enaid, gogwydd y galon i gredu, parodrwydd i dderbyn y dwyfol. Hollol wrthwyneb i hyn yw "ysbryd y cyfeiliorni," y duedd i ameu, y duedd i anghredu ac i wneyd i ffwrdd â Duw, i wadu y goruch-naturiol. Y mae yr ysbryd hwn am 3Tnlid y gor- uwchnaturiol o bob man—o'r greadigaeth, o hanesyddiaeth, o Berson a gwaith Crist, o'r Ysgrythyrau, ac o'r Eglwys. Ceisia ddynoli pob peth—naturioli pob peth. Natur yw pob peth. Rheswm 3'dyw y Barnwr goruchaf. Onid yr ysbryd hwn yw " y dyn pechod," neu un o ffurfiau Anghrist,—" 3T hwn sydd }ti gwrthwynebu, ac yn ymddyr- chafu goruwch pob peth a elwir 3rn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis1 Duw, 37n eistedd 301 nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw ?" . Onid hyn yw hanfod 3-sbryd anffyddol ein hoes ni —hunan-ddwyfoliad d^m—àyn yn c^Tnre^^d lle Duwì O ran hyny, y