Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

32 Xlaòmervöb. Cyf. XXV]. RHAGFYR, 1909. [Rhif 300. NODIADAU AMRYWIOL. Eneideç a Dysgreidiaeth yr Hen Destament. Y mae Beirniadaeth Feiblaidd' yn y blynyddoedd diweddaf wedi bygwth creu chwyldroad mawr yn ein syniadau am ranau helaeth o'r Hen Destament; ac yn ddiameu wedi Ìlwyddb i ddangos nad oedd rhai o'r golygiadau traddodiadol am däno yn gywir. Yn awr fe dclywedir wrthym fod chwyldioad pwysicach ar gymeryd lle drwy ddylanwad o gyfeiriad gwahanol. Fe geisiodd gwyddoniaeth siglo •eiii ffydd' yn y Beihl a'i gywirdeb, ond fe ddangoswyd yn lled fuan nab gall gwyddoniaeth ddim yn erbyn gwirionedd gair Duw, ond ticsto. Ond o gyfeiriad athroniaeth y daw y dylanwad nesaf i ym- yryd, a'n golygiadau am ddysgeidiaeth yr Hen Destament. Nid yw beirniadaeth yn ymwneyd llawer a hanfod y ddysgeidiaeth ond a"i liallanolion, megis cywirdeb geiryddol, amseriad y cyfansoddiad, &c.; ond y mae y gangen hono o athroniaeth a elwir eneideg (psych- ology) yn ymwneyd â chynwys yr hyn a ddysgir; ac o gymaint a hyny yn fwy peryglus. Hefyd nid yw beimiadaeth fel y cyfryw yn apelio cymaint at farn y darllenwyr cyffredin; ond y rhai sydd wedi cael mesur o addysg glasurol sydd yn teimlo mwyaf o ddyddordeb yn ei dyfaliadau a'i chasgliadau hi. Ond' am eneideg y mae ei dysg- eidiaeth yn myd y darllenydd1 diddysg, ac yn apelio at synwyr a dealldwriaeth y dyn cyffredin, felly y mae ei dylanwad yn llawer eangach. Yn ddiweddár fe gyhoeddwyd llyfr o gryn allu yn yr America ar y mater hwn, o waith un Jacob H. Kaplan, Ph.D. Teitl y llyfr ydyw,—" Psychology of Prophecy: A Study of the Prophetic Mind as manifested by the Ancient Hebrew Prophets." Y mae yn y llyfr hwn benod gref a phwysig ar alwad y proffwydi i'w swydd, yn ^yr hon y sylwir ar amryw bethau yn hanes eu galwad sydd yn gofyn am air o eglurhad1. Deil Dr. Kaplan yn gryf fod y proffwydi yn cael eu galw i'w gwaith yn uniongyrchol gan yr Arglwydd. Nid oes un math o le i feddWl fod un o honynt wedi ymwthio i'r swydd nac ymaflyd yn y gwaith yn ol ei duedd ei hun heb yr alwad hono; ac os darfu i rai wneyd hyny proffwydi gau oeddynt, yn llefaru o honynt eu hunain ac yn camarwain y bobl. Yr oedd yr oll o'r gwir broffwydi yn derbyn galwad oddiwrth yr Arglwydd; ac yr oedd yr alwad yn d'digon eglur iddynt hwy eu hunain wybod eu bod yn cael eu galw ganddo. Ond am ddull yr alwad, y mae Dr. Kaplan, yn sicr yn ei feddwl ei hun, nad oedd yn cymeryd lle yn llythyreno'