Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Î2 3üaòmen>òò* Cyf. XXV\ TACHWEDD, 1909. \_Rhif 299. NODIADAU AMRYWIOL. Dysgeidiaeth yr Apostol Paul. Bu cri mawr ymhlith rhai ysgrifenwyr am fyned yn ol Grist ; ac ni chyfrifai y rhai hyn fod un awdurdod yn perthyn i ddim a geir yn •y Testament Newydd, ond hyny o eiriau-o eiddo Crist a gofnodir yn y tair Efengyl cyntaf. Nid oes, meddant hwy, ddim mwy o bwys yn yr hyn a ysgrifenwyd gan Paul, nag yn ngwaith Augustin, Calfin, a duwinyddion eraill. Ac am Efengyl Ioan, nid oes dim mwy o werth ar yr hyn sydd ynddi hi nag sydd i'w roi ar ysgrifeniadau Paul. Y mae llai, i ryw raddau, gan eu bod hwy yn amheu awdur- iaeth y bedwaredd Efengyl; tra yn addef awduriaeth Epistolau Paul. Ar y cyntaf, y waedd oedd am fyned oddiwrth ddysgeidiaeth yr Eglwys a chredoau yn ol at Grist. Ond ni orphwyswyd ond ych)'dig iawn yma, ond codwyd gwaedd uchel am fyned yn ol oddi- wrth Paul a'r apostolion eraill at yr Iesu a'i ddysgeidiaeth union- gyrchol Ef. Ond erbyn hyn, ymddengys fod amryw ysgrifenwyr wedi cael digon ar y syniadau hyn, ac yn barod i waeddi am fyned yn ol at Paul. Y mae rhai fu yn edrych yn isel arno, ac yn haeru ei fod wedi camddeall dysgeidiaeth Iesu Grist, ac felly o angenrheid- rwydd yn ei gam-esbonio, yn awr yn tueddu i ddysgu nad oes dim yn Epistolau Paul nad yw y sylwedd o honynt i'w cael yn yr Efengylau mewn geiriau a lefarwyd gan Iesu Grist ei hun. Dwy athrawiaeth neillduol a ddysgir gan Paul y gwrthwynebir mwyaf iddynt ydyw dwyfoldeb Crist, ac athrawiaeth yr Iawn. Yr oedd y beirniaid hyn ar y cyntaf yn gwadu na lefarodd Crist y geiriau sydd yn yr Efengylau yn awgrymu föd ei farwolaeth yn Iawn tros bechod. Megis y geiriau, "Ni ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i was- anaethu ; ac i roddi ei einioes yn bridwerth tros lawer." A'r geiriau a ddywed am ei waed, il Yr hwn a dywelltir tros lawer er maddeu- ant pechodau." Dywedir mai yr Efengylwyr sydd wedi rhoddi yr ymadroddion yn ngenau yr Arglwydd Iesu. Ond wrth ddyweyd hyn, y maent yn taflu amheuaeth ar holl gynwys yr Efengylau, oherwydd os rhoddasant y geiriau hyn iddo, fel wedi eu Hefaru ganddo, pwy a ymddiried iddynt am y pethau eraill. Addefa bron yr oll o'r beirniaid yn awr y rhaid cyfrif yr ymadroddion uchod fel wedi eu llefaru gan Grist; ac y maent yn addef hefyd fod yma sail i