Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

35 3Llaòmer^öö* Cyf. XXVI HYD'HEF, 1909. \_Rhif 298. NODIADAU AMRYWIOL. Can'mlwyddiant Genedigraeth Dr. Lewis Edwards. Gan mai ar y 27aîn o fis Hydref, 1809, y ganwyd y diweddar Barchedig Lewis Edwards, M.A., D.D., yn Mhwll Cenawon, Pen- llwyn, nid priodol fyddai gadael i'r rhifyn hwn o'r Lladmerydd heb ryw sylw ar ei fywyd a'i iafur. Yr oedd yn hynaf o wyth o blant, pump o feibion a thair merch. Enw ei rieni oedd Lewis a Margaret Edwards. Yr oedd y ddau yri amlwg raewn duwioldeb, ac yn ddiwyd a hyfforddiol gyda'u dyledswyddau beunyddiol. Cawsant y fraint o weled y teulu oll ag àrwyddion duwioldeb arnynt. Dechreuodd Lewis ar ei addysg yn fore iawn mewn ysgol a gedwid gan un Edward Jones, y' Mmhwll y Clai Bach, tŷ o fewn rhyw filldir i Bwllcenawon. Yr oedd mor fychan y pryd hwn fel y byddai Edward Jones yn ei gario ar ei gefn ran fawr o'r ffordd. Oddiyno symudodd i ysgol gyffredin a gynhelid: y' Mhenychwarel, gan ei fod eto yn rhy ieuanc i fyned i Benyllwyn, am nad oedd pont i groesi yr afon o'i gartref yno. Ond wedi dod yn ddigon o faint i groesi yr afon ar draedfachau aeth yno. Bu yn ysgol Penllwyn nes y daeth angenrheidrwydd arno am ysgol well; ac aeth i Lan- fihangelgenauyglyn, lle y dysgodd ychydig Latin. Aeth oddiyno i ysgol John Evans, Aberystwyth, i ddysgu rhifyddiaeth. Yn Aberystwyth y derbyniwyd ef yn gyflawn aelod; ac yma y daeth ei sel a'i ddifrifwch crefyddol gyntaf i'r golwg, pan nad oedd ond oddeutu pymtheg oed. Nid hir y bu yn yr ysgol hon cyn i'r hen athraw medrus ddweyd yn onest wrth ei dad am ei gymeryd oddi yno, gan nad oedd1 ganddo ef ddim chwaneg i'w ddysgu iddo. Ystyriai ei rieni ei fod wedi cael digon o addysg i amcanion cyffredin bywyd, a bod yn bryd iddo ymaflyd mewn rhyw orchwyl, ond nid oedd ynddo duedd at un alwedigaeth fydol. Er nad oedd yn hawdd i'w rieni roddi ychwaneg o addysg, caniatawyd iddo fyned yr ail waith i ysgol Llanfihangel, yr hon ar y pryd a gedwid gan wr eglwysig o'r enw James Meredith, ac a gyfrifid yn un o'r ysgolion ieithyddol goreu yn y wlad. Elid oddiyno i Ystradmeurig, neu yn syth i Rydychain a Chaergrawnt, a derbyn urddau eglwysig. Cafodd yntau gynhygion taer yn y ffordd hon, ond gwrthododd am y mynai wasanaethu y Methodistiaid. Ond yr oédd hefyd wedi rhoddi ei fryd ar gael addysg uchel; ac aeth mewn ffydd i ysgol a gedwid gan y Parch. John Jones, wedi hyny o Lanbadarn Fawr, yr íiwn oedd yn ysgolhaig uchel. Tra yn yr ysgol hon y dechreuodd