Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

15 SLlaömer^öö* Cyf. XXVI MEDI, 1909. \_Rhif 297. NODIADAU AMRYWIOL. Mynydd Sinai a'i ryfeddodau. Cymerir yn ganiataol fod darllenwvr y Lladmerydd yn weddol gydnabyddus â'r cyfeiriadau Ysgrythyrol at fynydd Sinai; ac yn arbenig â'r adroddiad am roddiad y ddeddf f'r Israeliaid oddiarno. Ond y mae ysgolheigion Beiblaidd yn teimlo dyddordeb neillduol yn yr hen fynydd a'i amgylchoedd. Un o'r pethau sydd yn tynu mwyaf o'u sylw yn y blynyddoedd diweddaf ydyw yr hen Fynachlog enwog sydd wrth ei odreu. Caed llawer o bethau gwerthfawr o bryd i bryd o'r Mynachiog hwn sydd o werth yn ngolwg dysgedig- ion y gwahanol wledydd. Yr oedd yn perthyn iddo, yn ol pob tebyg, un o'r llyfrgelloedd o-werthfawrocaf yn - byd. Ond y mae er's blynyddoedd wedi ei hysbeilio a'i hamddifadu o'i phethau gwerthfawrocaf, naill ai trwy ddiofalwch y Mynachod, neu ynte eu hawydd am arian yn gwerthu ei thrysorau i'r neb a roddai ryw swra o arian am danynt. Y mae yn debyg mai Tischendorf oedd y cyntaf i ddarganfod gwerth y llyfrgell hon; pryd y cafodd ynddi yr MS. a elwir Codex Sinaiticus. Gwnaed ymchwiliadau dyfal yn y lle ar ol hyny, a chafwyd rhai pethau o werth mawr yno rai .gweithiau. Cyhoeddwyd amryw gyfrolau yn cynwys MSS. a ddarganfyddwyd yn yr hen fynachlog; ac ymae'sylw mawr yn <:ael ei dalu iddynt. Y mae y gyfrol gyntaf yn gynwysedig o restr o'r MSS. Syriaidd sy'dd yn y Mynachlog. ' Y rnae y rhestr hon wedi ei gwneyd i fyny gan y foneddiges alluog a dysgedig Agnes Smith Lewis. Bu hi yn aros am ddyddiau lawer yn y lle yn darllen ac yn chwilio y llawysgrifau. Y mae yma wahanol gopiau o rai o lyfrau y Testament Newydd. Er fod y rhestr yn faith, nid yw yn honi cynwys yr oll o'r llawysgrifau Syriaidd sydd yno. Y mae rhestr Mrs. Lewis yn cynwys desgrifìad manwl o'r llawysgrif- au, beth sydd yn gynwysedig ynddynt, nifer eu tudalenau, nifer y llinellau sydd ar bob tudalen, eu mesur, a'r dyddiad tybiedig sydd i'w roddi iddynt. Y mae y MSS. yn cynwys llawer o ysgrifeniad-