Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3£ 3üaömer^öò, Cyf. XXV]. AWST, 1909. [Rhif 296. NODIADAU AMRYWIOL. Y Beibl yn. yr Ysçolion Dyddiol. Y mae llawer o Ymneillduwyr trwyadl yn tueddü i gau y Beibl yn hollol o'r ysgolion dyddiol, am y credant na ddylid gweinyddu addysg grefyddol ynddynt o gwbl. Ond pe caniateid nad yw yn addas dysgu crefydd fel y cyfryw ynddynt; a phe trefnid i ddi- ddymu pob ymgais at hyny o'u mewn; ni ddylai hyny gynwys cau y Beibl fel llyfr allan p honynt. Yn y flwyddyn 1886, pasiwyd penderfyniad cryf yn Nghymdeithasfa y Methodistiaid yn Ngog- ledd Cymru o blaidi y Beibl, ac " yn dymuno ar i aelodau y Method- istiaid ag sydd yn perthyn i'r Byrddau Ysgol i wneyd eu rhan tuag at sicrhau darlleniad Gair Duw yn yr ysgolion dyddiol." Nid oedd hyn o angenrheidrwydd yn golygu dim ond fod y Beibl yn cael ei ddarllen fel rhyw werslyfr neu dasg-lyfr arall. Ond yn hanes y Gymanfa Gyffredinol ddiweddaf, fe gynygiwyd cau y Beibl allan a pheidio ei ddarllen o gwbl yn yr ysgolion. Yr oedd nifer lled gryf o aelodau y Gymanfa yn píeidio y cynygiad hwn. Nid oes eisiau galw nac ystyried darllen y Beibl yn y wedd yma yn addysg grefyddol, ac y mae yn dra thebyg na ddylid amcanu dysgu golygiadau crefyddol i'r plant. Ond addefa pawb y dylid dysgu moesoldeb cyffredin iddynt, a'u hyfforddi yn egwyddorion geir- wiredd a gonestrwydd. Ond beth geir mor effeithiol i ddysgu hyn a'r moes wersi pur sydd yn y Beibl. Y mae moesoldeb y Beibl yn uwch, yn burach, a pherffeithiach, nag unrhyw lyfr arall. Caiff y plant ryddid i ddarllen pob hanes ond yr hanes Ÿsgrythyr- ol. C'aiff y plant berffaith ryddid i ddarllen hanes Wellington a'i fyddin yn gorchfygu Napoleon ar faes Waterloo, ac yn gwaredu Ewrob rhag gormes Ffrainc ar y pryd; ond ni ddÿlent ar un cyfrif ddarllen hanes Gedteon yn gwaredu Israel o dan law y Midianiaid. Cant ddarllen hanes holl ddynion mawr y byd, ond nid ydynt i ddarllen dim o hanes Iesu Grist, na Moses, tía Dafydd, na ríeb o gymeriadau y Testament Newydd. Nid Uyfr crefydd yn unig yw y Beibl, nid llyfr Sabbath ydỳw, ond y mae ganddo rywbeth í'w ddysgu i ni am waith a dyledswyddau pob dydd. Ffol yw gadael rhyddid i ddysgu hanes yn yr ysgolion a gadael vr hanes pryd- ferthaf a chywiraf allan o gyraedd y plant. Ynfydrwydd yw ceisio dysgu moesoldeb iddynt, a chadw y llyfr sydd yn cýnwys y gwersi rhagoraf ar foesoldeb yn llyfr gŵaharddedig iddýnt. Ni chredaf y byddai gan un anffyddiwr wrthwynebiad i ddysgu y Beibl fel llyír arall i'w blentyn. Meddylier eto am ei lenyddiaeth,.