Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Î2 Xla6menŵ6* Cyf. XXVI GORPHENAF, 1909. [Rhif 295. NODIADAU AMRYWIOL. Yr Hen Destament a Beirniadaeth," Er nad oes llawer wedi ei ysgrifenu yn yr iaith Gymraeg ar yr hyn a ddywedir gan yr Uwchfeirniaid am gyfansoddiad a chynwys yr Hen Destament; eto y mae eu golygiadau yn hysbys i'n dar- llenwyr cyffredin, a rhai o honynt yn ddim ond darllenwyr un- ieithog. Ceir llawer cyfeiriad atynt yn y cyfn/xlolion Cymreig, ac y mae llawer o siarad ac ymholi yn nghylch eu casgliadau. Ac fel y dywed awdwr y llyfr ar " Yr Hen Destament a'i Genadwri," a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ein hiaith, wrth anerch y darllen- ydd, " Prin y mae angen gwneyd ymddiheurad dros ddwyn y syn- iadau diweddar ar yr Hen Destament i sylw darllenwyr Cymraeg." Ysgrifena Dr. Roberts mewn ysbryd rhagorol; ac arddangosir yn y llyfr lawer o barch i'r Beibl fel líyfr ysbrydoledig, ac yn cynwys datguddiad oddiwrth Dduw i'r byd. Dywed fod ganddo barch i syniad a theimlad hyd yn nod y rhai sydd yn ystyried y ffaith fod unrhyw beth i'w gael rhwng dau glawr y Gyfrol Sanctaidd yn rhesẁm digonol dros ei gredu. Ychydig ydyw nifer yr Uwch- feirniaid sydd yn feddianol ar y tynerwch hwn. Dylid parchu rhagfarnau dynion pan y maent yn gwyro at yr hyn sydd dda, ac nid da bod yn ddibris wrth geisio eu symud. Diau fod llawer o ragfarn yn meddwl llawer ynglyn a'r meddwl mawr sydd gan- ■ddynt am y Beibl fel Gair Duw. Pan yn dwyn syniadau newydd- ion i sylw y cyffredin, dylid eu dwyn yn y fath fodd na ragfarnir y darllenydd yn eu herbyn; a dwyn y fath resymau o'u plaid, nas gall neb sydd i fyny a'r cyfartaledd o blant dynion mewn gallu, meddwl, a dealltwriaeth, lai na'u derbyn fel gwirionedd. Prin y mae neb o'r uwchfeirniaid yn llwyddo i wneyd hyn, a theimlwn, fel y dywed Golygydd parchus Y Drysorfa, mai prif ddiffyg llyfr Dr. Roberts ydyw, " mai cyfìwyno casgliadau yr Uwchfeimiaid, yn hytrach na rhoddi y rhesymau sydd yn cyfrif am danynt, a wna." Rhaid dweyd fod y llyfr yn cynwys crynhodeb da o olygiadau y dosbarth gore o'r rhai hyn ar gyfansoddiad a chynwys yr Hen Destament. Rhaid addef nas gellid dwyn llawer o resymau dros y golygiadau a ddysgir i sylw ar fater mor eang o fewn terfynau Yr Hen Destament a'i Genadwri. Penodau ar Gynwys a Ffurf- iad yr Hen Destament a'r Apocrypha. Gan y Parch. Robert Roberts, B.A., Ph.D., Trefnant. Dinbych: Gee a'i Fah Cyf. 1909.