Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jj? 3Llaòmer^öò, Cyf. XXV]. MEHEFW, 1909. [Rhif 294. NODIADAU AMRYWIOL. Proffwydi yr Aifft. Telir sylw arbenig i'r Aifft gan ddysgedigion y byd y dyddiau hyn, yn enwedig gan y rhai sydd yn teimlo dyddordeb mewn ymehwiliad- au Beiblaidd. Nid oes odid fis yn myned heibìo na welir hysbysiad am ryw lyfr newydd yn dal rhyw gysylltiad a'r wlad, ac nid yn aml y gwelir cyfnodolyn Seisnig o ddim pwys, na bydd ynddö erthygl neu grybwylliad am rywbeth perthynol iddi. Cyhoeddwyd llyfr yn ddi- weddar, enw yr hwn o'i gyfieithu yw, " Goíeuni newydd ar yr hen Aifft." Cyfieithwyd y llyfr i'r Saesneg gan Elizabeth Lee; a chy- hoeddwyd ef gan Fisher Unwin. Dengys y llyfr ein bod yn coledd syniad cyfeiliornus am yr Aifftiaid, a chenhedloedd eraill, ac yn meddwl fod rhyw bethau yn neillduedig i'r Israeliaid, ac na wyddai y cenhedloedd eraill ddim am danynt. Dywedir gan rai mai peth perthynol i Abraham a'i ddisgynyddion oedd yr enwaediad. Ond yr oedd yn arferedig yn yr Aifft cyn ei sefydlu yn nheulu Abraham. Gwyddid o'r blaen fod yn perthyn i wahanol genhedloedd y ddaear eu hurdd o offeiriaid; ond nid oedd neb yn meddwl fod gan un genedl ei phroffwydi, ond cenedl Israel. Ond yr oedd' gan yr Aifft ei phroff- wyd yn gystal a'i hoffeiriaid er yn fore iawn. Cafwyd o hyd i genadwri un proffwyd wedi ei hysgrifénu ar bapyrfrwyn, ac er ei fod wedi ei ddarganfod er's blynyddoedd, yn ddiweddar iawn y gall- wyd darllen a deall yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llyfr. Ènw \ proffwyd yw Apoui; ond gan fod dechreu y llyfr ar goíl, nid vw yn bosibl gwybod fawr am dano, na pha fodd y galwyd ef at ei waith. Ni wyddys felly un a oedd ef yn perthyn i urdd o broffwydi rheol- aidd, ynte cael ei alw ddarfu iddo oddiwrth ryw alwedigaeth fydol i'r swydd, fel y galwyd y proffwyd Amos heb fod na phroffwyd na mab i broffwyd, namyn bugail defaid, a chasglydd ffigvs gwylltion. Beth bynag y mae y proffwyd hwn yn rhybuddio y wlad yn ddifioesgni, ac yn sefyU gerbron Pharaoh brenhin yr Aifft, ac yn cvhoeddi v trychineb mawr a ddeuai i'r trigolion. Dywed hefyd fo'd y brenhin ei hun yn gyfrifol am y d'rygfyd a ddeuai arnynt oherwydd ei ddrygioni. Yr oedd pawb, yn dlawd ac yn gyfoethog,' bychan a mawr, i 'deimlo oddiwrth y caledi hwn. Yr oedd teuluoedd' y wlad i gael eu han- Theithio, amgylchiadau y deyrnas i ddyrysu; y bobl vn mvned vn Thy ddigalon i wneyd dim g'waith, ystyrient níai yn ofer v'llifai'v Neil, am y çredent fod y tir wedi ei daro a diffrwythdra. Dywedid fod barbariaid' yr anialwch i anrheithio y wlad, y déuai y caethion vn rhydd, ac y caethiwid y meistriaid yn eu lle, y teflid merched a