Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXV]. MAI, 1909. [Rhif 293. NODIADAU AMRYWIOL. Epistolau Ioan.* Dechreu y mis diweddaf yr oedd dosbarthiadau hynaf ein Hys- golion Sabbothol yn ymgymeryd ag Epistolau Ioan fel Maes Llafur am y flwyddyn sydd yn dilyn. Un perygl y mae y rhai galluocaf yn agored iddo ydyw gor-fanylu, myned ar ol rhyw ymadrodd mewn adnod, heb gadw golwg ar feddwl yr holl bara- giaff, ac ystyried lle a gwasanaeth yr ymadrodd yn ei berthywas ag amçan neillduol y paragraff hwnw. Yr oedd athraw yn ym- ffrostio yn ddiweddar ei fod wedi treulio tri Sabbath i ymholi ac ymofyn yn nghylch rhyw ddau air oedd mewn rhan o adnod; ond pan ofynwyd iddo ymha gysylltiad. yr oedd yr adnod a gynwysai y geiriau hyny yn. dyfod i mewn, nid oedd wedi sylwi o gwbl. Peth hawdd ydyw syrthio i gamgymeriad yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid i ddegymu y mintis a'r annis, a gadael pethau trymaf y gyfraith heb sylwi arnynt. I ochel hyn o ddiffyg, nis gwn am ddim byd gwell i'w ddefnyddio fel parotoad at waith y dosbarth, na darlleniad manwl, meddylgar, ar Esboniad Dr. Phillips, Tylorstown, ar Epistolau Ioan. Yma dosrenir yr Epistolau yn wahanol adranau; rhoddir ystyr neu amcan yr adran mewn penawd neillduol, a dangosir meddwl pob adnod a rhan o adnod yn ei pherthynas a'i chysylltiad a'r penawd hwnw. Yn y dull hwn y mae yr awdwr yn ymgadw rhag myned yn wrthymgels- ydd uniongyrchol i esboniwr gosodedig y Cyfundeb. Ni thelir yn ol cynllun Esboniad Dr. Phillips ormod o sylw i'r plisgyn heb fyned at y cnewyllyn. Yma ymdrinir a meddwl yr adnod, nid o ran ei chynwys ynddi ei hun, ond yn ei chysylltiad â'r ymdrin- iaeth yn y paragraff y mae yn rhan o hono. Ýmdrinir hefyd a'r \ paragraff yn ei berthynas ag amcan yr holl Epistol. Rhwng Esboniad y Parch. Hugh Williams, Ámlwch, yr hwm sydd yn I manylu ar bob adnod, a'r Llyfr hwn, yr hwn'sydd yn rhoddi golwg ar bob rhan yn eu perthynas a'u gilydd, ni bydd yr un Cymro a all hyfForddio prynu y ddau lawer ar ol y. neb sydd yn prynu ac yn darllen yr Esboniadau goreu fedd y Saeson ar yr Epistolau hyn., Y mae ein darllenwyr yn gydnabyddus â lliaws * Esboniad ar Epistolau Ioan, gan y Parch. D. M. Phillips, M.A., Ph.D., Tylorstown.