Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

î£ 3Llaòmer^öò. Cyf. XXV]. EBRILL, 1909. [Rhif 292. NODIADAU AMRYWIOL. Pwy yw CristP Dyma gwestiwn a ofynir gydä phwyslais neillduol mewn erthygl vn yr Hibbert Journal am Ionawr diweddaf. Ysgrifenydd yr erthygl vdyw y Parch. R. Roberts, gweinidog gyda yr Annibynwyr yn Brad- ford. Gwna yr awdwr i ffordd ar unwaith â'r enw Crist a phob peth sydd yn perthyn iddo. Ei arwyddair mawr yw, " Yr Iesu a adwaen, a Duw a adwaen, ond pwy yw Crist?" Y mae yr awdwr am wneyd i ffordd am byth a'r syniad o ddwyfoldeb person y Gwaredwr; ac nid vw am gydnabodl y fath beth a Iesu Grist, yr hwn sydd yn rhyw gyf- uniad o Dduw a dyn. Ei gri mawr ef yw, nid, " Yn ol at Grist;" ond yn ol at Iesu. Dywed1 fodi dysgawdwyr efengylaidd, wrth geisio myned yn ol at Grist, yn cael eu hunain dan orfod i fyned yn ol at yr Iesu. Nidl yw yr awdwr yn cyfrif llawer o'r hyn a ddysgir yn y Testament Newydd am Grist yn ddim ond rhyw ddyrysbwnc heb werth ynddo. Gwnaeth ef ryddhau ei hun o bob syniad am Grist amser maith cyn ysgrifenu yr erthygl hon; ac nid yw yn derbyn dim fel gwirionedd, ond yr ychydig ffeithiau a geir yn yr Efengylau am yr Iesu. Cyfrifa ddysgeidiaeth ein duwinyddion am y Duw-ddyn yn ynfyd'rwydd. Er fod y dyn hwn yn cyfrif ei hun, ac eraill yn ei ystyried, yn weinidog yr Efengyl; y mae yn amlwg iawn nas gall fod ganddo Efengyl i'w phregethu i fyd colledig. Nis gall yr Iesu a tldarlunir ganddo ef roddi ei einioe's yn bridwerth d'ros lawer. Os nad oedd' yr hwn a fu farw ar Galfaria yn rhywbeth amgen i'r hyn a ddysgir ganddo ef, nis gall fod gwerth yn ei einioes i fod yn brid- werth dfos neb. Yr oedd yr Iesu a adwaenom ni wrth ddarllen yr Efengylau, yn dweyd, ei fod yn rhoddi ei gnawd (yn aberth) dros fywyd y byd. Os nad oedd y person h\vnw yn fwy na dyn, nis gall y byd fod ronyn gAvell o hyny. Oferedd ydyw dW'eyd adnod felly am dano. " Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth, sef maddeuant pechodau trwy ei waed ef." Dywed yr awdwr fwy nag unwaith nad oes arno ef eisieu Crist o gwbl. Y mae yn sicr nad yw yn teimlo hyny. Ond pe cai yntau olwg arno ei hun fel pechadür, a golwg ar Dduw fel Duw cyfiawn a sanctaidd1, yr hwn a gosba bechod; gwelai af unwaith y byddai nesau ato, Yn farwolaeth i bechadur Heb gael Iawn i'w gadw'n fyw.