Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

35 ^Llaòmet^òò. Cyf. XXV]. , MAWRTH, 1909. [Rhif 291. NODIADAU AMRYWIOL. Duwinyddiaetli Gyfundrefnol a Beirniadaeth Feiblaidd. Addefir yn gyffredin fod pob cyfundrefn o dduwinyddiaeth wedì ei seilio ar y Beibl, yn ol fel yr oedd awdwyr y cyíundrefnau hyny yn ei ddeall; a phob rhai o honynt yn ddiamheu yn credu fod "^r holl Ysgrythyr wedi ei rhoddd trwy ysbrydoliaeth Duw." Nid y cwestiwn a ddadleuir yn awr ydyw pa gyfundrefn a ffafrir gan feirn- iadaeth, ond a fydd i feirniadaeth wneyd pob math o gyfundrefn yn ddisail. Y mae rhai yn myned yn ddigon hyfion i ddweyd y bydd i feirniadaeth bob yn dipyn ddangos nad yw y Beibl i'w ystyried yn rheol awdurdodedig ffydd ac ymarweddiad. Pe yr addefid fod rhai gwallau ynddo, a bod rhai camgymeriadau wedi ymlusgo i mewn i'r copiau, nid yw yr oll o'r pethau a nodwyd yn cyffwrdd y rhanau hyny o'r Beibl sydd yn dysgu athrawiaethau pwysig yr efengyl. Mewn amseryddiaeth, ac mewn nodi allan rif y peth hyn neu y peth arall, y mae y pethau hyn yn digwydd. Ac nis gall peth fel hyn effeithio iiim ar farn duwinyddion am bynciau neillduol crefydd. Tra yn derbyn rhai o gasgliadau y Beirniaid, nid ydynt yn newid dim yn eu barn am Grist a threfn yr iachawdWriaeth. . Tra yn newid eu barnau am ambell adroddiad, megis yr adroddiad am gwymp dyn, pa un ai yn llythyrenol ynte fel math o ddameg yr ydym i'w ddeall: delir gafael cryf yn y gwirionedd a ddysgir yn yr adroddiad, sef. '" wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn, ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychymygion." Cawn rai dynion yn tynu casgliadau an- nheg iawn oddiwrth adroddiadau a geir yn y Beibl. Megis y gwel- som un awdwr dysgedig yn ddiweddar yn ymresymu oddiwrth ddis- tawrwydd y Beibl am rai pethau mewn rhai rhanau o hono, yn ddadl nad yw y crybwylliad am y pethau hyny mewn rhanau erailí o hono yn wir. Yn gymaint ag nad yw yr Hen Destament yn son dim am bechod Adda yn ei berthynas a'i hiliogaeth, ac na ddarfu i'r Arg- lwydd Iesu gymaint a son am ei enw haerant fod yr Apostol Paul yn camgymeryd wrth ddweyd, mai " trwy un dyn y daeth pechod i'r byd a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint a phechu o bawb." Ond pan gofiom fod y Beibl wedi ei roddi drwy ysbrydoliaeth Duw, a bod y Duw hwnw yn Hollwybodol, nid yw distawrwydd y naill ran yn profi o gwbl fod yr hyn a d'dywedir mewn rhan arall yn gamgymeriad; ond yn hytrach fel arall. Gan mai yr un ysbryd oedd yn cynhyrfu pob un o'r ysg-