Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Î2 Süaòmenẃò* Cyf. XXV]. CHWEFROR, 1909. [Rhif 290. NODIADAU AMRYWIOL. TJr y Caldeaid. Er cymaint yr ymchwilio sydd i wybod safle y lleoedd y sonir am danynt yn y Beibl; a chael allan bob gwybodaeth sydd ar gael am danynt, yn ddaearyddol, hanesyddol, a hynafiaethol; y mae rhai Ueoedd o hyd yn aros na wyr ysgolheigion Beiblaidd fawr ddim yn eu cylch. Yr unig gyfeiriad Ysgrythyrol at Ur y Caldeaid yw ynglyn â hanes Abraham, fel y lle yr arhosai ynddo cyn myned i Haran, lle yr arhosodd am beth amser ar ei ffordd i wlad C'anaan. Nid oes neb, er pob ymchwiliad, yn gallu dweyd yn benderfynol iawn ymha fan yr oedd tref Ur yn gorwedd. Barnai yr hen esbonwyr a hynafiaethwyr, ei bod yn rhywle rhwng yr Euphrates a'r Tigris, a bod y cyfeiriad at y lle gan Stephan yn gywir, pan y dywed fod Abraham yn Mesopotamia cyn iddo drrgo yn Charan (Act. vii. 2). Wedi hyny daliai y rhan fwyaf o'r prif hynafiaethwyr nas gallai Ur fod yn Mesopotamia o gwbl: am nad oedd y Caldeaid ar y cyntaf ond llwyth bychan o bobl yn trigo ar y morfeydd yn agos i ymarlìwysiad yr Euphrates i'r môr; ac nad oeddynt wedi dyfod yn genedl gref yn amser Abra- ham. Ond o hyny ymlaen iddynt gynyddu yn gyflym, ac fel yr oeddynt yn cynyddu eu bod yn parhaus symud i fyny gyda glanau y Tigris a'r Euphrates, nes yr eoddynt yn amser Nebuchodonezer y prif bobl yn mhoblogaeth ymherodraeth Babilon. Y pryd hwnw arferid y gair Caldeaid am drigolion Babilon yn gyffredin- ol. Yr hyn a ystyrid unwaith fel rheswm yn erbyn y golygiad hwn oedd, ei bod yn ymddangos y buasai yn bur anhebyg i Abraham i fyned i fyny i Haran ar ei ffordd i wlad Canaan, gan y gallasaí fyned yn llawer nes a mwy didrafferth trwy Arabia Garegog. Ond barna y rhai sydd yn dal y golygiad hwn i deulu mawr gychwyn o Ur y Caldeaid, a llawer o anifeiliaid, àc felly eu bod yn gorfod symud ar hyd y ffordd yr oeddynt debycaf o gael porfa i'w hanifeiliaid. Ond erbyn hyn y mae goleuni newydd ar y mater wedi ei gael. Ceir ysgrifen Fabilonaidd yn yr Äm- gueddfa Brydeinig yn dangos fod llwyth o'r Caldeaid^wedi ym- sefydlu ar yr ochr orllewinol i'r Euphrates, cyn amser Abraham, ac wedi adeiladu dinas yno a'i galw yn Ur y Caldeaid. Felly y mae braidd yn sicr mai o'r lle hwn y cychwynodd ef allan am wlad Canaan, ac yr oedd Haran ar ei ffordd o'r lle hwn yno. Y tebyg yw i'r teulu aros am amser maith yn Haran, fe enillodd Abraham lawer o eneidiau tra y bu yno; ac yn Haran y cafodd Eleazar o Damascus ei gaethwas fiPyddlawn, yr hwn a wnaed ganddo yn