Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXV]. IONAWR, 1909. [Rhif 2S9t NODIADAU AMRYWIOL. Anfarwoldeb yr Enaid.* Y mae anfarwoldeb yr enaid yn bwnc ýn ein credo fel cenedl o Gristiónogion: ond y syndod yw nad oedd genym gymaint ag un Jiyfr yn ein hiaith ar y mater hyd ymddangosiad y llyfr y cyfeir- iwyd ato yn y rhifyn diweddaf o waith Dr. B. M. Phillips, Tylors- town, a'r gyfrol hon gan Dr. Moelwyn Hughes, sydd yn awr ger ein bron. Ymddengys fod cenhedloedd paganaidd y byd yn credu yn anfarwoldeb yr enaid; ac nis gall unrhyw genedl ffurfio crefydd iddi ei hun heb gymeryd hyn yn ganiataol. Nid oes un grefýdd adnabyddus nad yw sefyllfa ddyfodol yn erthygl berthynol iddi, a bod gwobr a chosp i'w gweinyddu i blant dynion yn y sefyllfa hono, yn ol fel y byddant wedi byw yn y fuchedd hpn. Ystyrir cydsyniad cenhedloedd y byd ar hyn yn brawf o wirionedd y syniad am anfarwoldeb yr enaid a sefyllfa ddyfodol. Yr oedd prif athronwyr y byd hefyd yn dysgu yr athrawiaeth hon. _Dysg Plato fod hanfod yr enaid yn anfarwol, ac yr hanfoda mewn byd ar ol hwn; dengys Aristotle hefyd fod meddwl yn anfarwol, aê i fcarhau ar ol darfod a'r fuchedd hon. Y mae dysgeidiaeth yr Ysgrythyr Lân ar hyn yn hollol glir a phendant, ac yn y Testa- ment Newydd dysgir yr athrawiaeth am anfarwoldeb yr enaid bob amser yn gysylltiedig ag adgyfodiad y corff. Anfarwoldeb dyn a ddysgir yn fwy nag anfarwoldeb yr enaid. Dwg Iesu Grist y ffaith o fodolaeth Abraham, Isaac a Jacob yn brawf o adgyfodiad v meirw, ac felly Paul, " Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yn Nghrist, truanaf o;r holl ddynion ydym ni," gan awgrymu mai dyna y ffaith, os nad oedd adgyfodiad y meirw. Yn Llyfr Dr. Moelwyn Hughes ymdrinir yn helaeth a "Dyfaliadau yr Hen Fyd " am anfarwoldeb; ac yma ceir golwg ar y syniadau a goleddid gan v rhai a ymbalfalent am y gwirioneddi heb oleuni Datguddiad. Yna cawn gipdrem ar ddysgeidiaeth yr Hen Destament ar hyn". Edrychir yn mhellach ar yr hyn a ddysgir gan Grist a'i apostol- ion ar y mater. Traethir wedi hyny ar yr hyn a ddywed Gwydd- oniaeth ac Athroniaeth ar y mater hwn. Gwelir drwy hyn fod y roaes yr ymdrinir ag ef yn dra eang; ac y mae yr ymdriniaeth yn glir a diamwys ar bob rhan o hono. Fel gwaitíí llenyddol saif yn uchel ymysg y Llyfrau a ddygir allan o'r wasg Gymreig; yr aiddulí yn fyw a graenus, a'r iaith yn gyfoethog a thra phryd- ferth. Nid peth hawdd oedd ysgrifenu llyfr darllenadwy ar fater Anfarwoldeb yr Enaid. Gan J. G. Moelwyn Hughes, M.A., Ph.D., Leipzig. Cardigan: W. Joseph Thomas.