Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

î£ Haòmenẃò* Cyf. XXIV]. RHAGFYR, 1908. [Rhif 288. NODIADAU AMRYWIOL. Cristionogaeth a Chrefyddau Eraill. Ystyrir Dr. D. Alfred Bertholet, Athraw mewn Duwinyddiaeth yn Mhrifysgol Basle, yn Switzerland, yn un o'r awdurdodau uchaf yn fyw ar hanes crefyddau y byd, a'u teilyngdod cydmariaethol. Felly y mae cryn dipyn o bwys yn yr hyn a ddywed am wahanol grefyddau. Dywed mai yr unig gydmariaeth a wnai yr hen dduwinyddion rhwng Cristionogaeth a phob crefydd arall, oedd y gydmariaeth rhwng gwirionedd a chyfeiliornad—rhwng goleuni a thywyllwch. Nid oes dim i ddisgwyl oddiwrth hyn, ond con- demniad diamwys ar bob crefydd ond Cristionogaeth. Ond pe caniateid mai gau grefydd yw pob crefydd arall; er hyny y maent yn byw yn unig am fod rhyw gymaint o wirionedd ynddynt. Nis gall un cyfeiliornad fyw yn hir heb ryw gymaint o wirionedd i ddibynu arno. Dylid felly dalu sylw manwl i wahanol grefyddau y byd, nid yn gymaint er mwyn eu gwrthwynebu, ond i gael allan, a chadw hyny o wirionedd sydd ynddynt. Gall fod y gwir- ionedd hwnw wedi ei gladdu mewn llawer o ysbwrial, ac yn cael ei ddÿsgu yn hanerog ac anghyflawn. Cyfeiria y Dr. at ddywed- iad o. eiddo Zwingli, " Fod gwirionedd ymha le bynag ei ceir, neu gan bwy bynag ei traethir, yn deillio yn wreiddiol or Ysbryd Glan; mai e'fe yw y ffynhonell o'r hon yr yfodd Plato, ac y tynodd Seneca ddwfr.''' Ac y mae yn dyfynu yn mhellach o Zwingli, i _ ddangos fodi y dvn hwnw yn credu fod yn bosibl i Dduw gadw rhai o'r paganiaid. Dyma 'ei eiriau : " Nid oes dim yn rhwystr i Dduw ddewis rhai o'r paganiaid, y rhai a*i parchent, a'u dwyn i gymundeb ag ef ei hun : v mae efe yn rhydd i ddewis fel y myno: a'phe buaswn i fy hun yn dewis, fe fuaswn yn dewis Socrates o flaen y Pab." Ymddëngys fod duwinyddion eraill yn amser Zwingli, megis Lambertus de Monte yn credu fod Aristotle, ac athronwyr eraill, yn myned i'r nefoedd; ac yn seilio eu tybiaeth ar adroddiadau y Beibl am ddvnion duwiol tuallan i had Abraham, megis Melchisedec, Job, &c. D}wed Dr. Bertholet nad yw y Beibl yn cau allan y posiblrwydd i ddynion fel Plato ac Anstotle fod yn y nefoedd; ond dywed Marco Polo ychydig yn fwy gochel- gar am Buddha: " Pe buasai Buddha yn Gristion, y buasai yn uchel yn y nefoedd." Dywedir fod! peth sail i'r syniad hwn yn ngeiriau yr Arglwydd Iesu: " Yr hwn nid yw yn ein herbyn o n tu ni y mae " (Marc ix. 40). Diau y teimla darllenwyr y Llad- merydd yn anhawdd dygymod a dysgeidiaeth fel hon: ar yr un