Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

î? 2Llaòmen>òò. Cyf. XXIV]. TACHWEDD, 1908. [Rhif 287. NODIADAU AMRYWIOL. Sylwadau Esgx>b Winchester ar Eeirniadaetli. Y y Gynghorfa Eglwysig a gynhaliwyd' yn Manchester y 6ed, y 7fed, 8fed, a'r ojed o'r mis diweddaf, ymdriniwyd y diwrnod cyntaf a llawer o faterion yn dal perthynas a Beirniadaeth Feibl- aìdd, gan wyr o ddysg a gwybodaeth cyfaddas i ddatgan barn ar y pwnc. í ddechreu darllenwyd papyr gan Dr. Ryle, Esgob Winchester, ar " Derfynau Beirniadaeth Feiblaidd." Cyfyngodd yr Esgob ei sylwadau bron yn gwbl i'r mater yn ei berthynas ag astudiaeth yr Hen Destament. Dywedai ei fod ef wedi ei ddysgu o'i febyd i garu y Beibl, ac er ei fod yn diolch i Dduw am y llesâd a'r goleuni a gafodd trwy feirniadaeth Feiblaidd yn ystod y •chwarter canrif diweddaf, y gall dystio na chafodd trwy yr oll a glywodd ac a ddarllenodd, ddim yn siglo ei grediniaeth yn Ys- btydbliaeth yi' Ysgrythyr Lân; a chred heddyw mor ddiysgog ag erioed, fod'y Beibl yn ddatguddiad ysgrifenedig o feddwl ac ■ewyllys Duw. Credai fod i Feirniadaeth weinidogaeth ardderch- og, a maes eang o ddefnyddioldeb yn yr Eglwys. Ond! nid yw maes beirniadaeth yn ddiderfyn, y mae iddi ei chylch terfynol ei hun. Ei gwaith vdyw profi yr hyn a adroddir fel ffaith, i weled a ydyw felly mewn gwirioned'd. Ac fe ddylai yr Eglwys fod mor selog a Beirniadaeth mewn ymchwiliad am wirionedd. Nis gall un perygl fod mewn ymchwiíiad am wirionedd; ond y mae perygl i'r Eglwys, yn ei gwaith yn gwrthwynebu beirniadaeth, wyllt, anghymedrol, ac ynfvd, a chadw ei hun yn glir o bob cydym- •deimlad a'r btirniaid'sydd yn gwadu y Beibl fel datguddiad oddi- wrth Dduw, fyned i geisio'gwneyd i ffordd a phob beirmadaeth. Diwreiddio y gwenith wrth geisio casglu yr efrau fyddai hynv. Rhoddai Dr. Rvle bwys mawr ar ddarlleniad defosiynol o Air Duw, a dywedaí nas gall unrhyw feirniadaeth deg leihau ei werth vn yr vstyr hwn. Astudiaeth lenyddol yw Beirniadaeth Feiblaidd; a chael allan y gwirionedd ydyw amcan pob ymchwiliad beirniadol. Pan y mae beirniadaeth yn gwyro oddiwrth yr amcan hwn, ac yn troi ei holl nerth i wrthwvnebu unrhyw olygiadau, a bwrw 1 lawr un- rhyw gyfundrefn o oíygiadau, ac amddiffyn rhyw dybiau o eiddo y beirniad ei hun, y mae yn myned yn anffyddlon 1 eguyddor ymchwiliad gwyddorol. Y mae y feirniadaeth sydd yn amcanu vchwanegu gwybodaeth bob amser yn symud ymlaen yn arai: a phwyllog • ac yn aros yn wylaidd o fewn terfynau tebygolrwydd.