Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

12 ÜLlaòmenẃò. Cyf. XXIV]. HYDREF, 1908. [Rhif 286. NODIADAU AMRYWIOL. Tymor cuddiedig- yn mywyd cyhoeddus yr Iesu. Yr ydym yn darllen yn tair Efengyl gyntaf am Iesu Grist yn anfon y deuddeg apostol bob yn ddau a dau, i bregethu efengyí y deyrnas, gan roddi awdurdod iddynt ar ysbrydion aflan, a gallu i iachau pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl (Math. x.; Marc vi. 7—13; Luc ix. 1—6). Nid oeddynt i fyned i ffordd y Cenhedloedd nac i dd'inasoedd Samaria, ond i gyfyngu eu gweini- dogaeth i ddefaid cyfrgolledig tŷ Israel. Yr oedd yno chwe' chwpl o honynt yn myned allan i wahanol gyfeiriadau yn Galilea. Y cwestiwn yn awr ydyw ymha le y bu yr Iesu ei hun tra y bu y cenhadon hyn yn cyflawni eu gweinid'ogaeth. Fe gymerodd rai wythnosau o angenrheidrwydd i'r apostolion cyn dychwelyd at eu hathraw i roddi cyfrif o'u gwaith. Yr oeddynt i fyned i bob dinas a thref i alw mewn tai hyd y wlad, ac aros peth amser yn yr un ardal neu dref lle y derbynid hwy, oherwydd dywedir wrth- ynt, " Ac i ba dŷ bynag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi- yno ymadewch " (Luc ix. 4). Y cwestiwn yw, Ymha le y bu yr Athraw ei hun, a pha beth a wnaeth yr adeg yma? Myn rhai iddo fyned ei hunan i un rhan o'r wlad i wneyd i fyny seithfed gylchdaith. Ac y mae un adnod yn rhod'di peth sail i'r dybiaeth hon : "A bu, pan orphenodd yr Iesu orchymyn i'w ddeuddeg dis- gybl, efe a aeth oddiyno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy '•' (Mat. xi. 1). Dichon iddo fyned i ryw fanau ei hunan ar 0] eu hanfon hwy allan; a'r tebyg ydy w iddo fyned i gylchdaith Iago ac Ioan, ac i hono felly gael ei gorphen ymhell o flaen y lleill. Yna iddo ef ac Iago ac Ioan fyned i Judea i gyflawni y genhadaeth, sef yr ail genhadaeth yno, a gofnodir gan Ioan (vii—xi). Yr ydym yn cael hanes y dáith hon i Jerusalem gan yr Efengylwr Luc (ix. 51—56). Nid aeth y tro hwn trwy ddyffryn yr Iorddonen fel arfer, ond trwy Samaria. Fe anfonodd genhadau o'i flaen i dref yn Samaria i barotoi iddo; ond ni dderbynient hwy ef am fod ei wyneb yn tueddu i Jerusalem. Dyma y pryd y mynai Iago ac Ioan, alw am dân o'r nefoedd i ddifa y trigolion. Diau nad oedd un o'r apostolion heblaw y d;dau hyn gydag ef ar y pryd. Dyma yr ymdaith anghyhoedd i Jerusalem a gofnodir gan Ioan (vii. 2—14). Dywedir yno iddo wrthod myned yno gyda ei frodyr, ond myn'd! yn ddirgelaidd ar eu hol drachefn. Ni wnaeth yr Iesu ei hun yn gyhoedd yn Jerusalem cyn canol yr wyl. Ihma y pryd hefyd yr