Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

32 Xlaòmer^òò* Cyf. XXIV]. MEDI, 1908. [Rhif 285. NODIADAU AMRYWIOL. Agoriadau Teyrnas Nefoedd. Pan y gwnaeth Simon Petr gyffes mor groew a diamwys am ddwyfoldeb person yr Arglwydd Iesu yn y geiriau,—"Ti yw y Crist, Mab y Duw byw;" dywed yr Arglwydd Iesu wrtho mai nid trwy ei gyrhaeddiadau deallol ei hun, ond trwy ddatguddiad oddi uchod y cyrhaeddodd yr adnabyddiaeth hon o hono ef. " Gwyn dy fyd di Simon, mab Jonah, canys nid cig a gwaed a ddatgudd- iodd hyn i tî, ond fy Nhad', yr hwn sydd yn y nefoedd."' Yr oedd ei ddarganfyddiad a'i gredo am berson yr lesu yn hanedig o'r nefoedd. "Yr ydwyf finau yn dywedyd i ti,"' ebe yr Arglwydd Iesu, "mai ti yw Petr; ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi." " Ti yw Craig," medtì yr Arglwydd Iesu wrth Petr; yr hyn sydd! yn ei wneyd felly yw cred- iniaeth ddiysgog yn nwyfoldeb person Iesu Grist. Y mae syl- weddoli y gwirionedd mawr hwn yn rhoddi cadernidi yn ysbryd pob credadyn, ac yn ei wneyd yn graig o gadernid a sefydlogrwydd. Ar y cadernid! hwn y mae Crist yn adeiladu ei eglwys. Heb gael dynion i gredu yn nwyfoldeb ei berson y mae codi eglwys ar y ddaear yn anmhosibl iddo. Heblaw hyny dysgir yma fod eglwys yn sylweddoli dwyfoldeb Crist yn anorchfygol. Gwendid yr Eg- lwys ydyw methu sylweddoli hyn. Wedi llefaru y geiriau hyn dywedir wrth Petr, " A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd : a pha beth bynag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd." Yn awr y mae hyn yn rhoddi rhyw awdurdod i'r apostol yn yr eglwys, ond nid iddo ef yn unig, ond i'r apostolion eraill yn ogystal. Trosglwyddwyd agoriadau teyrnas nefoedd ar y ddaear i'r apostolion oll; oherwydd dywedir yn y benod nesaf fod yr awdurdbd hon yn perthyn iddynt yn ddi- wahaniaeth. Wrth son am frawd wedi pechu yn erbyn brawd. Wedi gwneyd ymdrech personol i enill y brawd, ac wedi cymeryd dau neu dri o frodyr i"w gynorthwyo i'w enill ac i'r holl ymdrech yma fethu, gorchymynir mynegi y peth i'r eglwys. " Ac os efe m wrendy yr eglwys chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnic a'r publican." Wedi i bob ymdrech garedig i gael gan y gwr i gyf- addef ei fai, ac i unioni y cam a wnaeth, ac i"r cyfan brofì yn an- effeithiol, yr oedd yn anheilwng i'w addef yn yr eglwys, ac i'w gyfrif yn.frawd, ond o hyny allan i'w gyfrif fel y cenedl-ddyn a'r