Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3£ ^laòmenẃò. Cyf. XXIV}. AWST, 1908. [Rhif 2S4. NODIADAU AMRYWIOL. Darfÿanfyddiad Hanes y Saith. Mlynedd Newyn yn yr Aifft. Bu y blynyddoedd diweddaf yn doreithiog o ddarganfyddiadau hynafiaethol yn yr Aifft, a rhai eraill o wledydd y Dwyrain. Nid ■oes braidd fis yn mynedi heibio na cheir clywed ám rywbeth wedi «dyfod i'r golwg o'r newydd, a'r pethau hyny yn gwasanaethu i gadarnhau gwirionedd rhyw ranau o'r hanes sanctaidd. Y mae pob darganfyddiad braidd yn dẃyn tystiolaeth i wirionedd y Beibl, fel na raid i'w garedigion ofni dim yn y cyfeiriad hwn. Yn araf y mae cofnodion yr hen fyd yn dyfod i"r golwg: a'r syndod yw eu ood mor gyson a'r hyn a gofnodir yn yr Ysgrythyr am yr un pethau. Bu llawer yn disgwyl i'r naiíl Pharaoh ar ol y llall wrth •eu cyfodi o'u beddau wneyd ysbrydoliaeth yn llyfr Genesis ac Exodus yn gelwyddog; ond buan y gwelwyd nas gallent hwy •ddim yn erbyn gwirionedd yr hanes, ond drosto. Bu llawer yn meddwl mai math o ramant, neu chwedl chwyddedig, yn seiliedig ar ryw fath o ffaith gyffredin syml yw hanes Joseph, a'r adrodd- iad am y saith mlynedd o lawnder, a'r saith mlynedd newyn yn ngwlad yr Aifft, ond yn awr dyma ddarganfyddiad o gofnodion Aifftaidd yn dangos y rhaid derbyn adroddiad yr Ysgrythyr yn ilythyrenol wir, wedi ei ysgrifenu yn hanes syml fel y cymerodd pethau le. Darganfyddwyd hyn gan Burgsch Bey, o Amgueddfa Cairo; ac y mae wedi deongli yr arwyddluniau ar y coflechi i foddlon- rwydd diamheuol. Cyn hyn yr oedid hanes joseph yn cael ei alw o'r carchar i ddehongli breuddwydion Pharaoh ac yn cael ei osod yrì llywydd ar yr Aifft yn aros heb ddim o'r tuallan i'r Beibl i ddangos ei fod yn wirionedd; er fod cofnodiad am y gwaith o adeiladu ystordai i gadw ŷd wedi ei ddarganfod o'r blaen, ond lled aneglur oedd y cyfeiriad at Joseph ynglyn â hyny. Ond yn y darganfyddiad hwn cadarnheir yr adroddiad Ysgrythyrol hyd yn nod mewn manylion heb fod yn bwysig iawn. Nid oes ar y cof- lechi hyn gyfeiriad mor uniongyrchol ac mor fanwl am flynydd- oedd yr amldra. Ond ceir hanes manwl am y modd y darfu i'r afon ballu gorlifo am flynyddoedd olynol; mewn canlyniad i hyny i'r tyfìant fethu dros yr holl Aifft; i"r gwellt a'r llysiau wywo ymhob man; a bod y tir heb ddim cynyrch, a newyn, a haint, a threuni, yn anrheithio yr holl wlad. Ni ddywedir llawer am wiedydd eraill ar y coflechi: ond y mae yn amlwg ei bod yn newyn yn Syria yn gystal ag yn yr Aifft yr adeg yma; a bod Jacob a'ì