Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

î2 XÌaÒmet$ẃ* Cyf. XXIV]. GORPHENAF, 1908. Rhif 283. NODIADAU AMRYWIOL. Llawysgrif arall o'r Efengylau. Yn y flwyddyn 1906 daeth llawysgrif anadnabyddus o'r Efengyl- au i law Dr. Grenfell, trwy law un o'r enw Ali Arabi, gwr sydd yn masnachu meẅn creiriau henafol yn Gizeh, dinas yn yr Aifft, ar ochr aswy y Nilus,'brorí gyferbyn a Cairo. Dywedir fod y MSS. wedi eu darganfod yn Achmim, tref arall yrí yr Aifft, ar ochr ddeheuol yr afon, tua dau gant o fìlldiroedd yn uẃch i fyny na Chairo. Y maè yn ymddangos fod yr holl MSS. yn cynwys, ymhlith amryw bethau eraill, gopi cyflawn o'r Beibl yn yr iaith Roeg, ond fod rhanau o hono wedi gwaethygu fel nas gellir ei ddarllen, a rhai rhanau wedi difa yn llwyr; ond y mae yr Efeng- ylau mewn diwyg gweddol dda, fel y gellir eu darllen trwyddynt yn lled ddidrafferth. Bernir gan ddysgedigion y rhaid fod y copi hwn wedi ei ysgrifenu yn y bedwaredd ganrif, neu beth bynag, nid yn ddiweddarach na'r bumed ganrif. Y mae cryn wahan- iaeth rhwng v copi hwn a'r Efengylau fel y maent genym ni. Er engraifft, ni cheir yma hanes " y wraig a ddaliesid ar weithred yn godinebu * (Ioan viii. 1—11); na hanes yr angel yn disgyn i gyn_ hyrfu dwfr llyn Bethesda (Ioan v. 1—4). Yn Efengyl Luc gadewir allan y crybwylliad am yr angel yn nerthu yr Arglwydd Iesu yn Gethsemane, ac am y chwys gwaedlyd yno (Luc xxii. 43, 44). Ni cheir yma ychwaith ei weddi ar y groes,—"O Dad, maddeu iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuth- ur" (Luc xxiii. 34). • Ceir hefyd aml ymadrodd ynddynt nad ydyw yn y cyfieîthiad awdurdodedig, nac yn y Cyíieithiad Diwyg- iedig ychwaith; ond yr hyn sydd bwysicaf yn perthyn i'r ysgrif hon ydyw, yr hyn a geir yn niwedd Éfengyl Marc. Yn y Cyf- ieithiad Diwygiedig, fe adewir lle gwag rhwng yr wythfed a'r nawfed adnod yn y benod olaf o'r Efengyl hon. Yr amcan o hyn, yn ddiau, yw dangos fod rhywbeth yn annaturiol yn y cysylltiad rhwng y rhan gyntaf a'r rhan olaf o'r benod. Mewn rhai o'r llawysgrifau hynaf ar gael o'r Efengyl gadewir y deuddeg adnod olaf allan yn hollol; ac mewn llawysgrifau eraill ceir diweddiad gẁahanol i'r hyn sydd genym ni. Felly ceir yr Efengyl yn di- weddu mewn tair ffurf wahanol mëwn gwahanol lawysgrifau. Un yn diweddu yn yr wythfed adnod; y llall fel y mae yn ein cyf- ieithiad ni; ac un arall yn cynwys darn ychwanegol heb fod yr un ag a geir yn y cyfieithiad awdurdodedig. Yn awr dyma bed- "werydd diweddaf iddi, yn cynwys rhywbëth gwahanol i'r hyn a