Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

••';.:/• 1Ü Cyf. XXIV]. MEHEFIN, 1908. , Rhif 282. NODIADAU AMRYWIOL. Gwyddoniaeth. a'r Beibl am y Greadigaëth. Y mae mwy o gysondeb rhwng yr hyn a ddywed Gwyddon- iaeth a'r Beibl am greadigaeth y byd a chreadigaeth dyn nag a •dybir yn gyffredin. Yn wir y mae pob peth sydd wedi ei brofi f.el ffaith mewn Gwyddoniaeth yn cydgordio yn hapus a'r hyn a ■ddysgir yn y Beibl. Dyfaliadau amhrofedig, ydyw yr hyn sydd yn ymddangos yn gwrthdaro yr hyn a ddywedir yn yr Ysgrythyr. Fel llawer o dybiaethau blaenorol, deuant yn fwy cymhedrol, neu fe'u gwrthbrofîr gan oleuni y dyfodol. Gadawer i ni edrych am fynud ar y cysòndeb profedig sydd rhyngddynt. (i) Y mae pob un o honynt yn dysgu fod dechreuad i'r greadigaeth, a dechreuad i ddyn ar y ddaear. Dywed Gwyddoniaeth yn eglur nad yw y greadigaeth yn bpd erioed, a bod amser pryd nad oedd dyn ar y ddaear. Dengys y Beibl a gwyddoniaeth fod dechreuad i'n byd Jii, ac i'r ddaear fod am ryw gyfnod heb ddyn yn trigo arni. (2) Dengys y ddau fod cryn barotoad wedi cymeryd lle ar yr hen 'ddaear yma cyn i ddyn wneyd ei ymddangosiad arni. Gwelir Jiyn yn amlwg yn y benod gyntaf o Genesis, ac y mae gwyddon- iaeth yn dangos fod pob creadur wrth ddyfod i fod, fel yn -dweyd, " Ar fy ol i mae un mwy mwy na myfì yn dyfod." (3) Dywed pob un o'r ddau, mai gallu dwyfol a greodd ddyn ar v «cyntaf. Dywcd Gwyddoniaeth mor -groew â'r Beibl, " Duw a .greodd y dyn, . . . . yn wryw ac yn fanyw y creodd efe hwynt." Nid oes yr un o'r ddau yn dweyd ymha ddull y crewyd dyn, pa un ai ar unwaith trwy allu Hollalluog, ai ynte trwy gwrsweith- j-ediad graddol; ond dywedant yn bendant fod gallu dwyfol wedi bod ar waith yn ei greadigaeth. (4) Dywed y ddau hefyd fod -dyn wedi ei lunio o bridd y ddaear. Eh'ma ydyw tystiolaeth ben- dant y Beibl. Ac y mae fferylliaeth wedi profi, trwy ddadan- soddi y corff, mai yr un elfenau sydd yn ei gyfansoddi ag sydd yn gwneyd i fyny y ddaear sydd dan ei draed. (5) Y mae y ddau yn un yn eu tystiolaeth fod y wraig yn feddianol ar yr un natur •a'r dyn. Dywed y Beibl mai rhan o'r dyn ydyw. "Hon," ebe Adda, "sydd asgwrn o'm hasgwrn i, a chnawd o'm cnawd i." Ac y mae Gwyddoniaeth yn dysgu nad yw y wraig wedi ei llunio <) bridd, neu ddaear, wahahol i'r dyn. (6) Dysg y ddau hefyd fod rhyẅ fawredd ac urddas yn perthyn i ddyn, nad yw yn per- thyn i'r un creadur arall ar y ddaear. Dyma uchder llwch y hyd; ac fe ddysgir hyn mor glir gan Wyddoniaeth âg y gwneir