Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Î2 3llaòmen>òò. Cyf. XXIV]. MAI, 1908. Rhif 281. NODIADAU AMRYWIOL. Pa beth. yw CrefyddP Telir cryn lawer o sylw i'r cwestiwn hwn, mewn rhyw ffurf neu gilydd, yn y prif gyfnodolion, y dyddiau hyn, yn y wlad hon a'r America. Amrywiol yw yr atebion a roddir iddo, ac y mae llawer o honynt yn anghyson a'u gilydd. Yn y North American Review, ceir ysgrif ar y cwestiwn hwn gan y Proffeswr F. S. Hoffman; yn yr hon y mae llawer o bethau canmoladwy iawn. Ond nis gellir cydolygu a'r Proffeswr ymhob peth y mae yn ddy- wedyd ar y mater. Dechreuir trwy ddweyd,—Beth nad ydyw crefydd. Dywed yn y lle cyntaf, Nid yw crefydd i'w chydrywio câ chrefyddau. Neu mewn geiriau eraill, fod crefydd bersonol yiì rhywbeth ar wahan i bob cyfundrefn o grefydd. Yn yr ail le, Nid yw crefydd yn dibynu ar gredu anfarwoldeb dyn, na chredu mewn un Duw, a hwnw yn fod personol. Dywedir yma fod Spinoza yn un o'r dynion mwyaf crefyddol a welodd y byd, ond mai ei Dduw ef oedd Natur, neu allu ysgogol y cread, ac yr oedd yn talu parch addoliadol iddo. Nid yw crefydd ychwaith yn gvn. wysedig mewn teimlad neillduol, nac mewn unrhyw gyfres' o deimladau, nac mewn unrhyw fath o gyflawniadau. Rhaid i'r darnodiad cywir o grefydd gyfeirio, nid at unrhyw gred neillduol, nac unrhyw deimlad arbenig, nac un math o weithredoedd gwir- foddol; ond at yr holl ddyn fel bod deallgar, yn meddu ar deimlad ac ewyllys. Nid yw crefydd yn ngwir ystyr y gair yn dibynu ar gredo; ac nid yw yn codi neu syrthio gyda chredo, nâc yn difianu, pan y peidir credu unrhyw beth. Cwestiwn- mawr ein hamser ni ydyw, nid a oes gan ddyn grefydd, ond a ydyw y grefydd sydd ganddo o ryw werth iddo; pa un ai cynorthwy ynte rhwystr i'w gynydd a'i ddyrchafiad ydyw; ac a ydýw yn tueddu at orucchaf- iaeth gwirionedd ac uniondeb yn ei' hanes ? Yr elfen gyntaf mewn crefydd ydyw cydnabyddiaeth o ryw allu tuallan i "iíi ein huiìain yn ymdreiddio trwy y cread : "yr elfen arall ydyw vr ym- drech i ddwyn ein hunain i gydgordiad â'r gallu hwnw. Y mae pob dyn synwyrol yn credu nad ydyw ef ei hun vn ddim ond rhan o gyfanswm pethau. Teimla hefyd ryw ddibýniad ar ý cyfan- swm hwnw; a'i fod yn rhwym o osod ei hun mewn cvdgoirdiad ag ef. "Crefydd dyn," ebe Caird, "ydyw y mynegiad o'i hollol dueddiad at y cread " (' Evolution of Religion/ Vol. I., tudal. 30). Rhaid i bob dyn gael duw o ryw fath. Gwnaed dyn i addoli rhywbeth; a rhaid iddo yn ol ei natur osod rhywbeth uwehlaw