Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

î£ Sllaömerçòb* Cyf. XXIV]. MAWRTH, 1908. \Rhif 279. NODIADAU AMRYWIOL. Y Beibl o ran ei Darddiad a'i Natur. Er fod llyfr y Profîeswr Marcus Dods ar y testyn " The Bible : 'its Origin and Nature," wedi ei gyhoeddi er's dros dair blynedd, y mae lle i feddwl nad yw wedi cael y sylw a deilynga gan gared- igion y gwirionedd. Gwir iddo gael rhai adolygiadau ffafriol yn amryw o'r cylchgronau Seisnig; eto credir na chafodd dderbyniad na darlleniad cyffredinol. Deallaf mai ychydig o'n pregethwyr darllengar sydd wedi ei weled. Ar yr un pryd y mae yn llyfr i'r amseroedd; ac yn debyg o gadarnhau meddwl aml un yn nheil- yngdod y Beibl fel llyfr dwyfol, sydd i raddau yn sigledig wedi darllen gwaith rhai o'r uwchfeirniaid yn ei ddilorni. Ychydig iawn o ddynion sydd genym yn y deyrnas hon sydd wedi gwneyd y Beibl, fel llyfr, yn brif astudiaeth eu hoes i'r un graddau a'r awdwr hwn. Yn yr ystyr yma ystyrir y ProffeswrMarcus Dods, a'r Proffeswr Sanday, gymaint ar y blaen fel nad oes neb arall i w gydmaru a hwynt. Rhaid addef fod pwysigrwydd ymhob peth a ddywedir gan ddynion fel hyn ar y pwnc. Cawn yn y llyfr hwn ddysgeidiaeth addfed, a meddylgarwch pwyllog, yn dangos, trwy gyfeiriadau at wÿddoniaeth, a hanesiaeth, ddwyfol darddiad ae awdurdod yr Ysgrythyr Lân. Fe draddodwyd, neu ddarllénwyd, cynwys y llyfr hwn ar y cyntaf i athrawon ac efrydwyr Prif-Athrofa y Lake Forest, Am- eriça; a chyhoeddwyd y llyfr gan T. a T. Clark, Edinburgh. Ceir ynddo yr amddiffyniad tecaf sydd yn bosibl i wirionedd y Beibl, a gwirionedd Cristionogaeth yn wyneb yr ymosodiadau di- weddar ar y naill a'r llall. Ond prin y gellir disgwyl i'r rhai sydd 3'n ymosod ar y Beibl ddarllen llyfr o'r fath yma gyda dim difrif- wch ac ystyriaeth, os darllenant ef o gwbl. Dyma ydyw yr an. hawsder mawr, câel gan y rhai sydd yn dadleu yn er'byn y gwir- ionedd i dalu sylw i unrhyw beth a ddywedir o'i blaid. Y mae hyn yn wir am lawer sydd yn ymosod ar y Beibl nad ydynt wedi 'talu sylw manwl iddo, ond ffurfio eu barn am dano wrth yr hyn a ddywedir yn ei gylch gan rai o'r un golygiadau a hwy eu hunain. ^id oes neb mwy cydnabyddus â'r Beibl yn ei holl ranau na Dr. Dods, nac yn meddu dealltwriaeth gliriach o'i ystyr a'i amcan; ac felly y mae yn gallu gydag eglurder gyfarfod y gwrthddadleu- on yn-erbyn, a'r ymosodiadau ar, ranau neillduol o hono. Y mae }r ymdriniaeth drwy yr holl lyfr yn eglur a meistrolgar, ac yn Syfryw ag y' gall y cyffredin ei mwynhau a chael budd wrth ei