Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

32 Xía&menẃ&. Cyf. XXIV]. CHWEFROR, 1908. \Rhif 278. NODIADAU AMRYWIOL. Dr. Orr ar y Cenh.edliad GwyrtMol.* Tra y mae llawer o feirniaid yr Almaen, rhai yn Lloegr, ac un neu ddau o ddilynwyr gwasaidd iddynt yn Nghymru, yn tueddu i wadu poh peth goruwchnaturiol ynglŷn â chenhedliad yr Arglwydd Iesu, ac yn dal na anwyd e'f o forwyn, ond bod iddo dad naturiol fel pob dyn arall; da cael gwr o ddysgeidiaeth, gallu, a phrofiad Dr. Orr, i draethu ei syniad ar y mater. Gwyr darllen- wyr y Lladmerydd fod Dr. Orr yn wr pwyllog, ac yn arfer edrych ar ei bwnc o bob cyfeiriad cyn penderfynu ei olygiad arno; a'i fod yn un o'r rhai tecaf mewn dadl, ac nä fynai er dim wneyd •cam a'i wrthwynebydd. Hyderir y bydd i'r llyfr hwn gan y fath awdwr rodii terfyn ar yr ysgrifenu ofer sydd ar y mater hwn yn y cyfnodolion Seisnig, gan fod yr oll sydd ganddynt i*w ddweyd dros eu golygiad eu hunain wedi; ei ateb yn llawn yn y llyfr rhagorol hwn. Dangosir yma hefyd fod y prawf i'r Iesu gael ei cni o forwyn cyn gadarned ag sydd bosibl iddo fod. Pan edrychir ar y ffeitniau yn eu gwyneb, barna ef mai yr unìg gasgliad teg ydyw addef y cenhedliad goruwchnaturiol, ac mai o forwyn heb adnabod gwr y ganwyd Iesu Grist. Ac y mae y ddysgeidiaeth hon fel y dysgir hi gan yr Efengylwyr, Matthew a Luc, yn gyd- weddol a holl wirioneddau Cristionogaeth fel y dysgir hwy yn y Testament Newydd. Hyfrydwch perffaith yw darllen 'gwaith gwr fel hyn sydd yn trin ei fater gyda y fath feistrolaeth dawel, y fath degwch, a'r fath eglurder. Pob rheswm sydd gan y rhai sydd yn gwadu yr hanes fe delir y sylw parchusaf iddynt, ac fe atebir eu holl ddadleuon yn yr ysbryd mwyaf rhydd a Christion- ogol; ac fe'u gorchfygir yn llwyr ar dir beirniadaeth deg a goleu- edig. Nid perthyn i'r rhai sydd yn dal y cenhedliad goruwch- naturiol y mae yr anhawsderau mwyaf i'w cyfarfod ond i'r rhai sydd yn gwadu hyn. Y mae cwéstiynau yn codi oddiwrth yr hyn a ddywedant na fynant gynyg eu hateb, ac nid ydynt yn foddlon sylwi arnynt. Y mae llawer o honynt wedi gwneyd eu meddyliau 1 fyny ymlaen llaw nad oes y fath beth a gwyrth yn bosibl j ac am hyny rhaid mai philoreg dwyllodrus ydyw yr hyn a ddysgir * "The Yirgin Birth of Christ." By James Orr, M.A., D.D., Professor in the United Free Church College, Glasgow. Wìth Appendix giving Opinions of Leading Scholars. Hodder & Stoughton. 6s. >