Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

î£ 3Liaömer^bò, Cyf. XXIV]. IONAWR, 1908. \_Rhij 277. , NODIADAU AMRYWIOL. Gwyrthiau. ynglyn a'r Waredigaeth o'r Aifft. ' Tuedd rhai o ysgrifenwyr dysgedig yr oes hon ydyw gwneýd i ffordd a'r g-wyrthiau a gofnodir yn hanesiaeth yr Hen Desta- mentj a cheisir rhoddi cyfrif naturiol am y rhan fwyaf o'r hyn a elwir yn arwyddion a rhyfeddodau ynglŷn â gwaredigaeth meib- ion Israel allan o'r Aifft, a'u sefydliad yn ngwlad Canaan. Dy- wedir fod ysgrifenwyr yr hanes yn dra hoff o briodoh pob peth hynod a ddigwydd i gyfryngiad neu weithrediad dwyfol, ond da!- iant hwy fod yr hanes yn fwy rhyfedd a gogoneddus wrth gau allan y goruwchnaturiol allan o hono. Dengys yr hanes fel y dadblygodd llwyth o gaethion, i fod yn genedfwro'l rhyfelgar, yn gorchfygu cenedloedd cryfach na hi'ei hun, ac y daéth \ feddu ordeiniadau a sefydliadau crefyddol llawer uwch nag hyd yn nod yr Aifft a Babilon. Gwelir yn yr hanes y genedl hon yn "eael ei disgyblu a'i pharotoi i'w dyfodol trwy orchfygu ei gelynion, a darostwng anhawsderau yn' ei ffordd,' yn ca'el ei dwyn i wlad oedd mor gyfaddas i'w hanianawd. Gw'elwn y ddisgybìaeth yma yn dangos ei hun yn ei huchder eithaf yn ei gwaith yn croesi yr Iorddonen, ac yn meddianu Jericho, dinas gaerog o gryfder eithr- ìadol. Dywed yr ysgrifenwyr hyn fod priodoli y péthau hyn i wyrthiau, a dang^>s yr Israeliaid yn ddim ond edrychwyr goddef- ol ar gwymp Jericho, yn ysbeilio hanes y waredi'gaeth' o"r Aifft, o ryw unoliaeth dramayddol sydd yn pert'hyn iddo; ac nid yw yn dwyn gwersi a disgyblaeth yr anialwch i'r'cyfrif: oblegid y m'ae gorchfygu Jericho yn ffurfio dolen-gydiol rhwng y wàredigaeth o'r Aifft a'r deyrnas neu y llywodraeth gref a osodwyd i fyny yn ngwlad Canaan. Rhoddant bwys mawr ar y gwahaiíiaeth rh'wng yr hyn a ystyriant hwy yn adroddiad syml o ffaith, ag esboniad yr adroddwr ar, neu ei opiniwn am, yr hyn a adrodda. Tybiant fod yr hanes yn cynwys adroddiad o ffeithiau, ond priodolant bob cyfeiriad at wyrth, fel ffrwyth dychymyg neu opiniwn yr ysgrif- enydd, neu feallai i duedd 'ofergoelus y cyfnod. Am' fynediad Israel i'r Aifft fel hyn y barnant hwy i'r peth g-ymeryd lîe. Yn amser y brenhinoedd bugeiliol, aeth'llwyth a elwid Hebreaid, o derfynau Syria, drosodd i'r Aifft, a rhoddwyd iddynt lain o dir nrwythlon a elwid Gosen, yn borfa i'w hanifeiliaid, ac i'r bobl dngianu ynddi. Ymhen amser daeth brenhiniaeth wahanol i awdurdod; a daeth ang-en am adeiladu dinasoedd ac ystorfeydd. <Galwodd y brenin am i'r bobl weithio i gyraedd yr amcan hwn, a