Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cjf. XXIII;. RHAGFYR, 1907. [Rhi/276 NODIADAU AMRYWIOL. Yr TJwchfeirniadaeth Byth a Hefyd. Gormod i ddim nid yw dda," medd y ddiareb; ac y mae ei gwirionedd i'w gymhwyso y dyddiau hyn, at yr hyn a elwir yn Uwchfeirniadaeth. Tra yn llawn cydymdeimlad â gwaith y dysg- edigion a elwir yn Uwchfeirniaid, ac yn ystyried mai mantais i'r g-wirionedd fydd gosod llyfrau y Beibl yn eu priodol le mewn ystyr hanesyddol, dylid cofìo jnai gwaith ydyw hwn i wŷr cyfarwydd (specialists), ac na ddylai dysgawdwyr crefyddol, heb fod felly, ar hyn o bryd o leiaf, ymyryd llawer â'r mater. Gwaeth nag ofer oedd gwaith dosbarth yn yr Ysgol Sabbothol yn ddiweddar, yn treulio dau Sabbath i ddadleu cwestiwn perthynol i waith yr uwchfeirniad, am fod un neu ddau o aelodau y dosbarth wedi digwydd gweled ysgrif ar y mater mewn cyhoeddiad Saesneg. Nid oedd neb yn y dosbarth yn alluog i wahaniaethu rhwng yr hyn oedd ffaith, â'r hyn nad oedd ond opiniwn yr uwchfeirniad ei hun; ac y mae yn ddiameu nad oedd ysgrifenydd yr ysgrif dan sylw yn honi fod ei holl ddyfaliadau yn ddim amgen tybiau heb eu profi, tra yr oedd rhai o aelodau y dosbarth yn dadleu drostynt fel g^osodiadau diymwad nad oedd dim i'w ddywedyd yn eu herbyn. Doethineb i bregethwyr ac athrawon yr Ysgol Sabbothol ydyw gadael pynciau o'r fath yn llonydd am beth amser eto, hyd nes y bydd casgliadau yr Uwchfeirniaid ar y gwahanol faterion dan eu sylw yn fwy cyson, a'u gosodiadau yn fwy profedig gywir. Ar yr un pryd y mae yr hyn a wnaed eisioes gan yr Uwchfeirniaid i «ffeithio i fesur helaeth ar ein dysgeidiaeth ar rai pwyntiau. Ffol- ineb fyddai dysgu yn awr ysbrydoliaeth eiryddol yr Ysgrythyr, a dweyd nad oedd yr ysgrifenwyr sanctaidd yn ddiin ond offerynau goddefol yn nhrosglwyddiad meddwl Duw' i'r byd, fel y dysgid linwaith. Ni ddylai neb yn awr ddal i ddysgu fod amseryddiaeth Ysgrythyrol, ac awduriaeth pob rhan o'r Beibl, yn holíol fel y =dysgid hyny haner can' mlynedd yn ol. Materion i'w penderfynu gan y dysgedigion sydd yn treulio eu hoes i'w hastudio yw y pethau hyn, ac nid yw eu gwaith yn y cyfeiriad hwn o lawer wedi •ei orphen, ha'r cwestiynau y dadleuant yn eu cylch o lawer wedi eu penderfynu. Wedi i hyn gael ei wneyd, gwelir nas gall yr Uwchfeirniadaeth wneuthur dim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd. Mae rhai o hen addoldai neu eglwysydd, yn y <leyrnas hon, ac ar y cyfandir, a gwahanol ychwanegiadau wedi <ei wneyd atynt ar wahanol amserau gan wahanol archadeiladwyr,