Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Úyf'XXIJZ] TACHWEDD, 1907. [Rhif%?5. NODIADAU AMRYWIOL. Cyclnabyddiaeth Paul a Cb.yfreitb.iaxi Bbufain. V mae peth ysgrifenu y dyddiau hyn ar y mater hwn, yn enwedig gan y rhai sydd yn dal fod Paul yn gosod allan drefn y prynedigaeth mewn gwedd rhy gyfreithiol. Gwedir y prynedig- aeth yn hollol gan lawer o'r ysgrifenwyr hyn, a dysgant fod Duw yn ei drugaredd yn maddeu i'r edifeiriol heb ofyn iawn na haedd- iant mewn trefn i wneyd hyny. Gwir fod Paul yn dangos gwy- bodaeth fanwl o gyfreithiau yr ymherodraeth yr oedd yn aelod o honi fel dinesydd. Er mai Iuddew o genedl oedd yr apostol, dyg- wyd ef i fyny mewn dinas genhedlig nid anenwog, Tarsus vn Cilicia, ac yr oedd yn meddu hawl dinasfraint o'i enedigaeth. " Minau," meddai, " a anwyd yn freiniol," gan honi uwchafiaeth ar y rhai oedd wedi prynu y ddinasfraint. Yr oedd Tarsus fel üinas yn ffafr yr ymherawdwyr Rhufeinig; ac yr oedd ynddi ysgol lenyddol ac athronyddol o gryn fri; ac, o ran ei manteision mewn .\vsgeidiaeth, nid oedd yn ail i unrhyw ddinas yn y byd, oddigerth i sect y Stoiciaid, y rhai fel dosbarth a astudient gyfreithiau Rhufain. Nid oedd ysgolheigion Tarsus fel rheol yn aros yn eu dinas enedigol, ond yn symud i leoedd eraill o ddysg neu fasnach. Diau fod Saul ieuanc wedi cael llawer o fantais o'i febyd i gyd- nabyddu a chyfreithiau Rhufain yn ei athrofa ei hun yn Tarsus; ac mewn oedran addfetach symudodd i Jerusalem i gael addysg yn y cyfreithiau a'r defodau íuddewig wrth draed Gamaliel. Fel dinesydd Rhufeinig wedi cael addysg dda, yr oedd yn hyddysg yn nghyfreithiau yr ymherodraeth ynghyda'f modd y gweinyddid hwynt. Heb hyny nis gallai fod mor gyfarwydd yn yr hawliau a'r rhagorfreintiau a berthynai ìddo fel Rhufeiniw:r. * Cawn ef íwy nag unwaith yn apelio am ei hawliau fel dinesydd, ac yn ^yhuddö yr awdurdodau o droseddu y gyfraith yn eu hymddvgiad tuag ato. Yr oedd i Ddinesydd Rhufeinig ragorfreintiau lawer, heblaw amddiffyniad rhag caeí cam oddiar Ìaw awdurdodaù lleol; ä hàwl i apelio at orsedd yr ymherawdwr. Ni byddai gweinydd- ;Wýr y gyfraith yn gofâlu fawr päfodd yr ymddygent ät rai'heb tòd yn ddinasyddion, ac ni'd oedd o bwys mawr iddynt beth fyddai y ddedfryd a roddi arnynt, gan nas. gaììaì y personau hyny ápelio at aẃdurdöd uwch. Ni bíiasai Pilat yn beiddîo traddodi un nad