Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf XXIIIJ HYDREF, 1U07 [Rhif$?4 NODIADAU AMRYWIOL. Y Dduwinyddiaeth. Newydd a Phechod.* Pregeth yw y pamphledyn hwn, a draddodwyd yn Nghapel Caersalem, Abermaw, ac a gyhoeddwyd ar gais yr eghws vno, a Chyfarfod Dosbarth (M.C.) Dyffryn Ardudwy. Y geiria'u y seilir y bregeth arno ydyw, " Pechod, fel yr ymddangosai yn bèehod : . . . . fel y byddai pechod trwy y gorchymyn yn dra phechadur- us " (Rhuf. vii. 13). Sylwir i ddechreu ar ystyr y geiriau, "' Pechod yn bechadurus" a " phechod yn ymddangos yn bechod." Xid ymadroddion diystyr neu ddibwynt ydynt, megis pe dywedid fod goleuni yn oleu, &c. Ond dywedir fod pechod yn beehadurus am nas gellir ei gyffelybu i ddim ond iddo ei hunan, 'ac nad oes un an- soddair yn ddigon cryf i osod allan y drwg a'r trueni sydd yn gyn- wysedig ynddo heb wneyd gair o bechod ei hun, a dweyd ei fod yn '"bechadurus." Y mae yn anfeidrol ddrwg fel y mae ì)uw vn an- feidrol dda. Yna sylwir fod yn bwysig i bechod ymddangos yr hyn ydyw. Grym temtasiwn ydyw cuddio pechadurusrwvdd y pechod, ai wisgo a gwedd ddeniadol a diniwed. Wedi hyny sylwir ar yr hyn ydyw pechod yn syniad a phrofiad dynion go'reíi pob oes, a gwelir eu bod yn ei ystyried fel rhywbeth ag ofnadwy- aeth mawr yn perthyn id'do,—r'hyw ddyfnder^o erchylìdra y mae yr enaid yn arswydo yn yr olwg arno. Yn awr gofynir y cwest- iwn, A ydyw goreuon yr oesoedd wedi camgymeryd. Haera y " Dduwinyddiaeth Newydd " eu bod. Dywed v r'hai svdd yn êi dysgu nad yw pechod wedi y cwbl yn beth y dylid blinoìlawer.vn ei gylch, ac nad yw Duw yn ymboéni fawr'o'i herwydd. Nid yw yr hyn a eilw yr hen dduwinyddion yn "gwymp dyn," vn gwymp mwyach, ond i'w ystyried yn rhan' o'r cynllun 'dwyfol tuâg at ddyrchafu dyn: gris yn nghyfeiriad perffeithrwydd ydyw. Felly, yn ol y ddysgeidiaeth hon rhaid fod Paul yn camgymeryd wrth ddysgu fod pechod yn öra phechadurus. Amcan y bregeth ydyw cyflwyno ì'r gwrandawr, neu y darllenydd, rai'ystyriaethau a ddengys iddo berygl yr athrawiaeth ddieithr a gwr'th-Feiblaidd hon, a'i gynorthwyo i íynu wrth y syniad Ysgrythyrol fod pechod yn dra phechadurus. Tair ystyriaeth a ddygir' i sylw. I. Fod colli golwg ar ddrwg pechod yn gyfystyr' â cholli golwg ar brydferthwch sancteiddrwydd. II. Fod gwadu pechadurus- rwydd pechod yn gefnogaeth ymarferol i bechod. III. Mai doeth- * Y Dduwinyddiaeth Newydd a Phechod. Gan Richard Morris, M.A., B.D., Dolgellau. Dolgellau : E. W. Evans.