Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gyf. XXIII] AWST, 1907. [Rhif 272. NODIADAU AMRYWIOL. Materoliaeth. Dichon fod rhai o ddarllenwyr y Lladmerydd heb feddu syniad clir am yr hyn a feddylir wrth Fateroliaeth a Materolwyr, er fod Ihwer o son am danynt yn barhaus yn ein cyfnodolion. Hynod mor ddifeddwl ydyw rhai dynion wrth ddarllen. Cymerant yn ganiataol eu bod yn deall y termau a arferir, heb fod ganddynt un dirnadaeth am eu hystyr. Dro yn ol, wrth dderbyn blaenor- iaid yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, gofynid i un o honynt,—" A oedd ef wedi digwydd gweled neu glywed y gair ' Ail-achosion' yn cael ei arfer mewn rhyw gysylltiad?" Ýr ateb oedd,—" Do, lawer gwaìth." Gofynwyd wed'yn,—" Beth ydych chwi yn íeddwl wrth y gair hwn?" Nid oedd un atebiád i'w gael oddi wrtho. Dywedodd yr holwr gan fod " ail-achosion, y rhaid fod achos cyntaf! A pha beth y mae termau fel hyn yn olygu?" Wedi hir ystyried, fe gofìodd fod moddion Seisnig wedi eu cychwyn yn ddiweddar yn y dref yr oedd yn byw ynddi, ac yna atebodd " mai yr achos cyntaf oedd yr achos Cymraeg, a'r ail achos oedd yr un Saesneg;" felly yr achosion Saesneg oedd i'w ddeall wrth " ail achosion." Nid oedd hwn yn ddiau y dylaf o biant dynion; gan mai diffyg llawer ydyw darlíen heb ymholi beth y mae y geiriau a arferir yn ei osod allan. Soniodd un yn ddi- weddar wrthyf am faterolwyr; a chaed allan heb amgylchu llawer, mai yr hyn a ddeallai ef wrth Fateroliaeth oedd cybydd-dod; ac mai am gybyddion y meddylid pan yn son am Faterolwyr. Gwir fod cybyddion yn ddaearol a materol iawn; ond nid am danynt hwy y meddylir wrth son am Faterolwyr. Materoliaeth ydyw y gyfundrefn sydd yn gwadu bodolaeth pob peth ond mater. Materolwyr oedd y Saduceaid, y rhai a ddysg- ent nad oedd angel nac ysbryd yn bodoli. Y mae yn wir fod materolwyr yn amrywio yn fawr yn eu golygiadau ar wahanol bethau ynglyn a mater, ond cytunant oll i ddysgu nad oes dim yn bodoli heblaw mater. Nid ydynt ychwaith am wneyd i ffordd a'r termau "meddwl," "enaid," ac "ysbryd;" ond yn ol eu syniad hwy ni olygant ddim amgen na ffurfiau neillduol ar fater. Nid oes neb o honynt yn credu yn modolaeth Duw, anfarwoldeb, a byd arall. Breuddwyd disylwedd y cyfrifant y syniad o fodolaeth dyn ar ol marw, ac nid yw son am adgyfodiad y meirw yn ddim ond ynfydrwydd. Tragwyddol hun yw marwolaeth. Yr an- hawsder mwyaf a deimla rhai o honynt ydyw esbonio gweithred- iadau yr ewyllys a'r gydwybod; ond boddìonant eu hunain nad yw y termau hyn yn gosod allan ddim ond swyddogaethau mater yn